NPT Property Register

Cofrestr Eiddo Castell-nedd Port TalbotNPT Property Register

Mae Cofrestr Eiddo a Thir Masnachol Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys gwybodaeth am gyfleusterau swyddfa a diwydiannol sydd ar gael, ynghyd a safleoedd datblygu ledled y fwrdeistref sirol. Mae'n cael ei chynhyrchu gan Dim Gwasanaethau Busnes y Cyngor. Rydym yn ymroddedig i helpu busnesau lleol yn y fwrdeistref sirol i ddod o hyd i safle addas, ac i helpu busnesau sydd am symud i'r ardal.

Mae Cofrestr Eiddo a Thir Masnachol Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei llunio ar sail gwybodaeth a ddarparwyd gan weithredwyr lleol. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth sydd ynddi'n gywir, ni ellir gwarantu hyn ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gamgymeriadau neu gamliwio.

Dylid cysylltu a'r gweithredwr perthnasol i gael manylion llawn pob cofnod diwydiannol/swyddfa/datblygu tir. Mae manylion cyswllt ar gael yn y ddogfen hon.