Development Opportunities

Cyfleodd Tir/Datblygu

Parc Ynni Baglan
Mae'r parc busnes arobryn hwn yn cynnig amgylchedd o safon uchel a thirlunio helaeth. Mae'r cwmniau sydd eisoes yn y parc yn cynnwys GE Energy, Intertissue Paper Mill a Technium ar gyfer Technolegau Cynaliadwy.

Porth Ffordd Fabian
Hon yw'r brif ffordd i Fae Abertawe o draffordd yr M4 sy'n cynnig 4 hectar ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd datblygu masnachol a defnydd cymysg. Y cwmni cyntaf i symud i'r safle yw'r manwerthwr byd-eang Amazon, i ganolfan ddosbarthu 800,000 troedfedd sgwar a ddyluniwyd i'r diben ar 33 erw.

Coed Darcy
Datblygiad 400 hectar gwerth £1.2 biliwn yw Pentref Trefol Coed Darcy ar safle hen burfa olew BP. Bydd y datblygiad yn cynnwys pedair ysgol newydd, cyfleusterau iechyd a chwaraeon, canolfan gymunedol a siopau, ynghyd ag oddeutu 4,000 o gartrefi. Bydd ffordd gysylltu newydd yn gwasanaethu'r safle a bydd trafnidiaeth wyrdd yn thema allweddol. Cefnogir y datblygiad cynaliadwy hwn gan bartneriaeth sy'n cynnwys Sefydliad y Tywysog ar gyfer yr amgylchedd adeiledig.

Ffordd Ddosbarthu Ymylol
Mae'r ffordd hon yn welliant strategol i'r briffordd am gost o £110 miliwn. Bydd yn cefnogi'r broses adfywio Ystad Ddiwydiannol Port Talbot ac ardal y dociau, gan wella mynediad i lan y mor a Pharc Ynni Baglan.

Glan Mor Aberafan
Tair milltir o draeth tywod gyda'r posibilrwydd o gyfleoedd datblygu hamdden, masnachol a defnydd cymysg. Ochr yn ochr â hyn, mae Cynllun Adfywio Coridor Deheuol Afon Afan yn cynnwys tua 300 hectar.

Glyn-nedd - A465
Mae tua 34 erw o dir ar gael ar gyfer datblygu masnachol, diwydiannol a defnydd cymysg.
Mae'r ardal hon sydd ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn cynnig cysylltiadau ardderchog a chanolbarth Lloegr.

Harbwr Dwr Dwfn Port Talbot
Un o'r cyfleusterau docio dyfnaf yn y byd. Potensial ar gyfer datblygu ar 30 hectar o dir yn ymyl yr harbwr, ardal a chysylltiadau rheilffordd sy'n agos i draffordd yr M4.