Tir ac Eiddo

Tir ac Eiddo

Ceir amrywiaeth eang o adeiladau a safleoedd diwydiannol yn ardal Castell-nedd Port Talbot, gan amrywio o 300 troedfedd sgwar i fwy na 50,000 troedfedd sgwar.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rheoli tua 200 o unedau mewn 11 lleoliad gwahanol. Mae'r unedau'n amrywio o 150 troedfedd sgwar i 5,000 troedfedd sgwar, ac maent yn addas ar gyfer busnesau newydd a rhai sydd wedi'u sefydlu. Yn ogystal, mae rhai ar gael sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer pobl ifanc mewn busnes.

Aerial View of Port Talbot

Os yw'ch busnes yn symud neu'n ehangu, mae tir ar gael i'w ddatblygu ar gyfer datblygiad wedi'i deilwra, ynghyd ag amrywiaeth eang o unedau masnachol a diwydiannol mewn perchnogaeth breifat.

Mae rhan fwyaf y safleoedd o fewn munudau o draffordd yr M4, gyda chysylltiadau rheilffordd, awyr a phorthladd ardderchog hefyd.

Os hoffech i ni gynnwys manylion eich eiddo masnachol neu dir i'w ddatblygu ar ein Cofrestr Tir ac Eiddo Gwag, ffoniwch y Tîm Datblygu Busnes ar 01639 686835 neu e-bostiwch: Busnes