Canolfan Fusnes Sandfields

Mae Canolfan Fusnes Sandfields yn un o fentrau entrepreneuraidd blaenllaw Cyngor Castell-nedd Port Talbot, gan roi llety swyddfa a gweithdy i fusnesau newydd a phresennol. Prif amcan y Ganolfan yw gwneud y camau cyntaf i mewn i'r byd busnes cyn hawsed ag y bo modd.

Sandfields Young Business Centre

Wedi'i rheoli gan y tim datblygu economaidd, agorwyd y Ganolfan yn swyddogol ym 1998 a gwnaeth effaith yn gyflym gyda llu o  fusnesau yn manteisio ar y cyfleusterau. Gydag adborth mor gadarnhaol, a nifer o fusnesau ar y rhestr aros, cafodd cynlluniau eu cyflwyno a'u cymeradwyo ar gyfer ail gam yr adeilad.

Yn gyfan gwbl, mae'r Ganolfan yn cynnig 24 swyddfa ac 11 gweithdy mewn meintiau amrywiol, gyda'r rhent yn dechrau o:

  • Swyddfeydd £76.50 y mis gan gynnwys TAW
  • Gweithdai £165.00 y mis gan gynnwys TAW

Yn ychwanegol, bydd angen talu am nwy chwarterol, dwr a thal gwasanaeth misol (sy'n cynnwys casglu sbwriel). Mae telerau'n cynnwys 'hawdd i mewn, hawdd allan' h.y. mis o rybudd gan y naill ochr i adael yr eiddo. Mae larwm tresmaswyr a chaeadau diogelwch wedi'u gosod ar bob swyddfa a gweithdy.

Sandfields YBC Waiting Area

Mae gwasanaethau sydd ar gael yn y Ganolfan yn cynnwys:

  • Gwasanaethau llungopio a ffacsio
  • Cyfleusterau Cynadledda
  • Man dangos band eang
  • Parcio ceir
  • Mynediad 24/7 i'r unedau
  • Cyfleoedd i rwydweithio a phobl fusnes ifanc eraill yn y Ganolfan

Astudiaethau achos

PEBBLE ENGINEERING LTD

BUFFOON FILM AND MEDIA

4 COLOUR DIGITAL