ReAct

Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (ReAct)

Mae Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (ReAct) Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu pecyn o gefnogaeth i helpi pobl sydd wedi’u diswyddo neu dan fygythiad o gael eu diswyddo.

Mae cefnogaeth ariannol yn helpu unigolion i ennill sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau a gwella eu gobeithion o ddychwelyd i’r gwaith yn yr amser byrraf posib.

Mae tair rhan i’r cynllun:

  • Mae Cefnogaeth Recriwtio i Gyflogwyr yn ariannu cyflogwyr sy’n recriwtio unigolion a gafodd eu diswyddo yn y chwe mis diwethaf. Mae’r wobr yn cynnig hyd at £2,000 wedi’i thalu mewn pedwar rhandaliad fel cyfraniad tuag at gostau cyflogau.
  • Mae Cefnogaeth Hyfforddi i Gyflogwyr yn gronfa ddewisol ar wahân o hyd at £1,000 y gall cyflogwr roi tuag at gost hyfforddiant sy’n ymwneud â swydd recriwt newydd.
  • Mae Cefnogaeth Ymgynghorol i Recriwtio yn darparu pecyn cynhwysfawr o arweiniad a chefnogaeth recriwtio i helpu cwmnïau ddod o hyd i’r person cywir.

Gall cyflogwyr ddewis gwneud cais ar gyfer Cefnogaeth Recriwtio’n unig neu Gefnogaeth Recriwtio a Hyfforddi. Gall Cefnogaeth Hyfforddi i Gyflogwyr gael ei defnyddio’n ar y cyd â Chefnogaeth Recriwtio i Gyflogwyr yn unig.

Dylid cyflwyno ceisiadau o fewn chwe mis o ddyddiad y diswyddwyd gweithiwr newydd gan gyflogwr blaenorol. Ni ddylai cwmnïau fod wedi derbyn unrhyw arian hyfforddi sy’n seiliedig ar waith ar gyfer unigolion ers y diswyddo.

I wneud cais am arian ReAct, ffoniwch 01792 765888 neu e-bostiwch: ReAct.team@wales.gsi.gov.uk neu ewch: www.wales.gov.uk/react