ProAct

ProAct

Mae ProAct yn darparu cymorth hyfforddi i fusnesau sy’n profi anawsterau

o ganlyniad i’r sefyllfa economaidd sydd ohoni ac i’r rhai sy’n ceisio

paratoi ar gyfer yr adferiad drwy wella sgiliau eu gweithlu.

Mae’r cynllun gwerth £48m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu

cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant sy’n atal diswyddo ac yn cefnogi costau cyflog y rhai sy’n derbyn hyfforddiant.

Mae ProAct yn cynnig £2,000 y person ar gyfer hyfforddiant a £2,000 pellach fel cymhorthdal cyflog.

Bydd rhaid i gwmnïau sy’n ystyried gwneud cais gyflwyno Achos Busnes yn

esbonio eu sefyllfa a’r angen am gefnogaeth. Os caiff ei gymeradwyo,

darperir help i baratoi cynllun hyfforddi er mwyn cynorthwyo’r broses o adfer busnes.

Bydd yn rhaid iddynt hefyd ddangos:

Dichonoldeb cyn y sefyllfa economaidd bresennol

  • Cynlluniau i gyflwyno gweithio amser byr ar isafswm o 20%
  • (1 diwrnod yr wythnos) yn ystod y cyfnod y caiff yr hyfforddiant ei gyflawni
  • Wedi, neu’n ystyried colli swyddi os nad ydynt yn gallu sicrhau arian gan Pro Act.

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch dîm ProAct ar 0845 6066160.