Employment Support

Cefnogi Cyflogaeth

Mae darparu swyddi i bobl leol yn dasg sy'n gofyn am ymagwedd drefnus gan y cyngor ac amrywiaeth o asiantaethau eraill.

Mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Canolfan Byd Gwaith ac awdurdodau lleol eraill, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rheoli nifer o fentrau a ddyluniwyd i greu cyfleoedd gwaith newydd yn yr ardal. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl leol yn 'barod i weithio' ac yn y lle gorau i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.