Employer Support Group

Grŵp Cefnogi Cyflogwyr Castell-nedd Port Talbot - Gwella Cyswllt Cyflogwyr

Mae'r Grŵp Cefnogi Cyflogwyr yn ymagwedd gydweithredol gan amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynnig gwasanaethau busnes a chyflogaeth i gwmnïau yn y fwrdeistref sirol.

Am wybodaeth bellach am ein holl bartneriaid, ewch i:

Gan gydweithio er lles y cwmnïau, bydd y grŵp yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth gydlynol i sicrhau bod sefydliadau yn derbyn cefnogaeth recriwtio gynhwysfawr a chynhwysol, ac y'u hysbysir o'r datblygiadau diweddaraf o ran gwasanaethau lleol a
chenedlaethol.

Sefydlwyd Grŵp Cefnogi Cyflogwyr CNPT er mwyn:

- Diwallu anghenion cwmnïau fel cyflogwyr
- Codi ymwybyddiaeth o'r holl gefnogaeth i gyflogwyr sydd ar gael
- Nodi cyfleoedd sydd â'r potensial i greu swyddi lleol
- Sicrhau ymagwedd bartneriaeth at gefnogi cwmnïau
- Darparu un pwynt cyswllt er mwyn cael mynediad at gefnogaeth

Bydd cynrychiolydd o'r Grŵp Cefnogi Cyflogwyr yn cwrdd â chi er mwyn:
- Trafod y gefnogaeth sydd ar gael sy'n benodol i'ch cwmni
- Nodi unrhyw gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth

Gellir hysbysebu unrhyw gyfleoedd swyddi i bob sefydliad partner a fydd yn ymgymryd ag ymarfer paru â swydd wag i sicrhau bod ymgeiswyr addas ar gael.

Byddwch yn derbyn rhestr o ymgeiswyr gyda gwybodaeth am unrhyw ysgogiadau sy'n berthnasol i'r unigolyn e.g. treialon gwaith, ariannu ReAct.

Ar gais gellir trefnu amserlenni cyfweliadau ac yn dilyn dewisiad bydd unrhyw ysgogiadau dychwelyd i'r gwaith sy'n berthnasol yn cael eu prosesu a bydd unrhyw gefnogaeth barhaus yn cael ei darparu.

I weld sut gall eich cwmni elwa o gefnogaeth gan y Grŵp Cefnogi Cyflogwyr cysylltwch â Claire Roach
Swyddog Buddion Gymunedol, CBSCNPT
Rhif ffôn: 01639 686427
E-bost: c.roach@npt.gov.uk