Buddion Cymenudol

Buddion Cymunedol

Bellach, mae buddion cymunedol yn aml yn cael eu cynnwys mewn contractau corfforaethol (a elwir weithiau yn gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol cwmni), recriwtio a hyfforddiant a dargedir, cymalau cymdeithasol neu hyd yn oed gofyniadau cymdeithasol. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd, ond beth mae hyn yn ei olygu i CNPT?

Mae CBS Castell-nedd Port Talbot yn ymrwymedig i hybu Datblygu Cynaliadwy trwy'n polisïau, ein strategaethau a'n gwasanaethau er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian. Rydym yn ceisio adeiladu cymunedau cryfach, lleihau eithrio cymdeithasol a thlodi ac annog datblygiad yr economi. Wrth gyflwyno prosiectau isadeiledd, mae Castell-nedd Port Talbot yn bwrw ymlaen â buddion cymunedol er mwyn cyfrannu at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y gymuned ehangach.

Disgwylir i gontractwyr llwyddiannus weithio gyda Swyddog Buddion Cymunedol y cyngor er mwyn cyflwyno'r nifer mwyaf posib o fuddion cymunedol trwy gontractau. Trwy ei Gynllun Corfforaethol mae'r cyngor yn ymrwymedig i ddarparu cyflogaeth gynaliadwy a hyfforddiant i helpu pobl leol i gael gwaith, a elwir weithiau yn Recriwtio a Hyfforddiant a Dargedir.

Mae'r Swyddog Buddion Cymunedol ar gael i helpu'r prif gontractwr a'r is-gontractwyr i gyflwyno'r holl fuddion cymunedol, yn benodol ofynion recriwtio a hyfforddiant a dargedir ac i gefnogi'r gadwyn gyflenwi leol trwy ddigwyddiadau megis Cwrdd â’r Prynwr, lle mae gan fentrau bach a chanolig y cyfle i gwrdd â'r datblygwr a cyflwyno tendrau am gontractau lleol.

Mae manteision ychwanegol yn cynnwys Grŵp Cefnogi Cyflogwyr Castell-nedd Port Talbot, grŵp partneriaeth ag un pwynt cyswllt sy'n dod ag amrywiaeth eang o sefydliadau ynghyd i gefnogi anghenion cyflogi a recriwtio busnesau lleol a buddsoddwyr posib newydd i'r ardal. Mae'r grŵp yn bodoli er mwyn gwella cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ac i ddarparu gwasanaeth effeithlon i fusnesau er mwyn eu helpu i gael mynediad at gefnogaeth.

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Claire Roach: c.roach@npt.gov.uk