Dechrau eich swydd newydd

19. Dechrau eich swydd newydd

Llongyfarchiadau ar gael eich swydd newydd. Rydych chi wedi gweithio'n galed i gyrraedd y nod, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn gallu ymgartrefu a gwneud argraff a chyfraniad da cyn gynted â phosib. Defnyddiwch yr awgrymiadau a'r rhestr wirio canlynol i baratoi a sicrhau bod eich diwrnod cyntaf yn llwyddiant:

  • Faint o'r gloch bydd disgwyl i mi ddechrau? Dylech geisio bod yno 10 munud yn gynt.
  • At bwy dylwn i adrodd? Beth yw ei rif ffôn rhag ofn bydd unrhyw broblemau?
  • Beth yw'r ffordd orau o deithio i'r gwaith ac a ddylwn i ymarfer y daith?
  • Pa fath o ddillad bydd disgwyl i mi eu gwisgo? (dillad gwarchod, dillad smart, esgidiau diogelwch)
  • A fydd rhaid i mi newid unrhyw rai o'm trefniadau presennol am fy mod i'n dechrau gwaith? (rhywun arall i fynd â'r plant i'r ysgol)
  • A fydd rhaid i mi fynd ag unrhyw gyfarpar/offer gyda mi?
  • Beth arall bydd ei angen arnaf? (e.e. sbectol, pen, papur)
  • A fydd angen manylion fy nghyfrif banc, P45 a'm rhif Yswiriant Gwladol arnaf?)
  • A ddylwn i fynd â lluniaeth?
  • Yn olaf, ceisiwch gael noson dda o gwsg.

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad