60 o gwestiynau cyfweliadau

17. 60 o gwestiynau a ofynnir yn aml mewn cyfweliadau

  1. Beth yw eich nodau a'ch amcanion tymor hir a thymor byr. Pryd a pham penderfynoch ar y nodau hyn a sut rydych yn paratoi eich hun i'w cyflawni?
  2. Pa nodau penodol, ar wahân i'r rhai sy'n berthnasol i'ch gwaith, rydych wedi eu pennu i'ch hun dros y 10 mlynedd nesaf?
  3. Beth byddwch yn ei wneud ymhen pum mlynedd yn eich barn chi?
  4. Beth rydych chi wir eisiau ei gyflawni yn eich bywyd?
  5. Beth yw eich amcanion gyrfa tymor hir?
  6. Sut rydych chi'n bwriadu cyflawni eich nodau gyrfa?
  7. Beth yw'r manteision pwysicaf rydych yn eu disgwyl yn eich gyrfa?
  8. Beth rydych yn disgwyl ei ennill o ran cyflog ymhen pum mlynedd?
  9. Pam dewisoch chi'r yrfa rydych yn paratoi ar ei chyfer?
  10. Beth sy'n bwysicach i chi, yr arian neu'r math o swydd?
  11. Beth yw eich cryfderau a'ch gwendidau mwyaf yn eich barn chi?
  12. Sut byddech chi'n disgrifio'ch hun?
  13. Sut byddai ffrind neu gydweithiwr sy'n eich adnabod yn eich disgrifio?
  14. Beth sy'n eich cymell i wneud eich gorau?
  15. Sut mae eich profiad yn yr ysgol wedi eich paratoi am yrfa?
  16. Pam dylwn i eich penodi?
  17. Pa gymwysterau sydd gennych a fydd yn eich gwneud yn llwyddiannus?
  18. Sut rydych chi'n dynodi neu'n gwerthuso llwyddiant?
  19. Beth mae ei angen i lwyddo mewn cwmni fel hwn, yn eich barn chi?
  20. Sut gallwch chi gyfrannu at ein cwmni?
  21. Pa rinweddau dylai rheolwr llwyddiannus feddu arnynt?
  22. Disgrifiwch y berthynas a ddylai fod rhwng goruchwyliwr a'r rhai sy’n atebol iddo/iddi
  23. Disgrifiwch eich rheolwr gorau/gwaethaf
  24. Ymhlith eich cyflawniadau, pa ddau neu dri sydd wedi rhoi'r boddhad mwyaf i chi? Pam?
  25. Disgrifiwch y profiad yn yr ysgol a roddodd y boddhad mwyaf i chi.
  26. Pe byddech chi'n  penodi i'r swydd hon, pa rinweddau byddech yn chwilio amdanynt?
  27. Pam dewisoch chi eich ysgol neu'ch prifysgol?
  28. Beth oedd eich rhesymau dros ddewis eich maes astudio?
  29. Pa bynciau roeddech yn eu hoffi fwyaf yn yr ysgol? Pam?
  30. Pa bynciau roeddech yn eu hoffi leiaf yn yr ysgol? Pam?
  31. Pe gallech wneud hynny, sut byddech yn cynllunio'ch astudio academaidd yn wahanol? Pam?
  32. Pa newidiadau byddech yn eu cyflwyno yn eich ysgol neu'ch prifysgol? Pam?
  33. Oes gennych gynlluniau i barhau i astudio? Uwch radd?
  34. Ydych chi'n meddwl bod eich graddau'n adlewyrchiad da o'ch cyflawniad academaidd?
  35. Beth rydych wedi'i ddysgu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol?
  36. Ym mha fath o amgylchedd gwaith rydych chi'n fwyaf cyfforddus?
  37. Sut rydych chi'n gweithio o dan bwysau?
  38. Pa swyddi rhan-amser neu haf sydd wedi bod o'r diddordeb mwyaf i chi? Pam?
  39. Sut byddech yn disgrifio'r swydd ddelfrydol i chi ar ôl i chi raddio?
  40. Pam penderfynoch chi geisio am swydd gyda'r cwmni hwn?
  41. Beth rydych yn ei wybod am ein cwmni?
  42. Enwch y ddau neu'r tri pheth yn eich swydd sydd bwysicaf i chi?
  43. Ydych chi'n chwilio am waith mewn cwmni o faint arbennig? Pam?
  44. Pa feini prawf rydych yn eu defnyddio i werthuso'r cwmni rydych yn gobeithio gweithio iddo?
  45. Ydy lleoliad daearyddol yn gwneud gwahaniaeth i chi? Pam?
  46. A fyddwch yn symud? Ydy symud yn eich poeni?
  47. Ydych chi'n fodlon teithio?
  48. Ydych chi'n fodlon treulio o leiaf chwe mis o dan hyfforddiant?
  49. Beth sy'n gwneud i chi feddwl yr hoffech chi fyw yn y gymuned mae ein cwmni'n rhan ohoni.
  50. Ydych chi wedi wynebu problem fawr? Sut gwnaethoch chi ei datrys?
  51. Beth rydych wedi'i ddysgu gan eich camgymeriadau?
  52. Dywedwch wrthyf amdanoch chi'ch hun.
  53. Pam rydych chi am weithio yn y maes hwn?
  54. Rhowch enghraifft i mi o broblem rydych wedi'i datrys.
  55. Pa agweddau ar y swydd hon a fyddai'n achosi'r her fwyaf i chi?
  56. Beth gallwch chi ei wneud i ni nad yw rhywun arall yn gallu ei wneud.
  57. Dywedwch wrthyf am y person mwyaf anodd i chi erioed weithio gydag ef. Beth oedd y sefyllfa? Beth gwnaethoch chi? Beth ddigwyddodd?
  58. Meddyliwch am adeg pan fu rhaid i chi gysylltu â rhywun dieithr a'i ddarbwyllo i wneud rhywbeth. Beth oedd y sefyllfa? Beth gwnaethoch chi? Beth ddigwyddodd?
  59. Meddyliwch am sefyllfa pan oedd rhywun yn ddig gyda chi neu bu gwrthdaro. Beth oedd y sefyllfa? Beth gwnaethoch chi? Beth oedd y canlyniadau?
  60. Pam rydych yn gadael eich swydd bresennol?

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad