Mathau o gyfweliad
16. Mathau o gyfweliad
1.Cyfweliadau panel
Does neb yn hoff o'r math hwn o gyfweliad ac
maent yn anodd i'r rhan fwyaf o bobl.
Rhai awgrymiadau defnyddiol ar gyfer
cyfweliadau panel.
- Dilynwch arweiniad y cadeirydd (bydd yn hawdd
adnabod y person hwn, gan mai ef neu hi fel arfer fydd yn cyflwyno
pawb).
- Ceisiwch ganfod pa aelod o'r panel byddech yn
atebol iddynt.
- Wrth siarad â'r panel, cofiwch eich bod yn
siarad â phob un ohonynt, nid y person a ofynnodd y cwestiwn yn
unig. Cofiwch wneud cyswllt llygad â phob aelod o'r panel.
- Anadlwch yn ddwfn cyn ateb.
2.Profion Grŵp
Weithiau bydd cyflogwyr yn defnyddio profion
grŵp i weld sut bydd rhywun yn ymateb mewn sefyllfa grŵp, e.e.
- Sut roeddech chi'n ymddwyn mewn sefyllfa
grŵp?
- A wnaethoch chi gymryd rôl arwain a chynnwys
aelodau eraill y grŵp?
- Sut rydych chi'n cyd-dynnu â phobl eraill yn
gyffredinol?
3.Sefyllfaoedd damcaniaethol neu
ddychmygol
Bydd y cyfwelydd yn disgrifio sefyllfa y
gallech ei hwynebu wrth wneud y swydd a gofyn sut byddech yn ymateb
i hyn. Os byddwch yn wynebu'r math hwn o gyfweliad, mae bob amser
yn ddoeth peidio â rhuthro i ateb heb ystyried eich ateb yn ofalus
yn gyntaf. Meddyliwch dros eich ateb yn ofalus. Rhowch ddigon o
amser i chi'ch hun drwy ailadrodd y brif sefyllfa iddynt wrth i chi
lunio'ch ateb.
4.Sefyllfaoedd
ymddygiadol
Mae'r dull hwn o gyfweliad yn fwyfwy
poblogaidd. Bydd gofyn i chi ddisgrifio sefyllfa benodol ac esbonio
sut buoch yn ymateb iddi. Er enghraifft: “Rhowch enghraifft o
sefyllfa pan gawsoch gŵyn gan cwsmer a dywedwch wrthym beth
wnaethoch chi i'w datrys."
Yn ddelfrydol dylech ddilyn pedwar cam wrth
ateb cwestiynau ymddygiadol:
Y cam cyntaf (Sefyllfa): disgrifiwch y
sefyllfa
Yr ail gam: (Techneg): pa ymagwedd a
ddefnyddiwyd gennych?
Y trydydd cam (Gweithredu): pa gamau a
gymerwyd gennych
Y pedwerydd cam (Canlyniad): beth oedd
canlyniad eich gweithredu?
Mae ateb cwestiynau'n rhan bwysig o gyfweliad.
Bydd eich gallu i roi atebion clir a chryno, mewn modd gwybodus
sy'n dangos sut mae'ch cefndir yn berthnasol i'r cwestiwn a
ofynnwyd, yn rhoi mantais i chi dros y rhai sy'n baglu dros
gwestiynau.
Cwestiynau
ymddygiadol: cwestiynau sy'n gofyn i chi ddisgrifio
sefyllfa yn y gorffennol - mewn cyd-destun addysgol, gwirfoddol neu
waith - lle buoch yn dangos yr ymddygiad mae'r cyflogwr yn chwilio
amdano.
Cyn i chi hyd yn oed feddwl am fynd i
gyfweliad am swydd, rhestrwch eich cyflawniadau, yn enwedig y rhai
yn y meysydd canlynol:
Profiad sy'n berthnasol i
waith: (Beth rydych chi wedi'i
wneud mewn swyddi eraill, yn yr ysgol neu wrth
wirfoddoli?)
Diddordebau technegol:
(Oes gennych dystiolaeth i atgyfnerthu'r hyn rydych yn ei
honni?)
Enghreifftiau o arwain:
(yn yr ysgol, mewn clwb, mewn swydd)
Gweithgareddau tîm:
(Ydych chi wedi gweithio'n llwyddiannus fel rhan o
dîm?)
Sgiliau cyfathrebu:
(Oeddech chi'n addysgu rhywbeth? Ydych chi wedi ysgrifennu
llawlyfr? Ydych chi wedi rhoiaraith?)
Lluniwch straeon byr sy'n dangos eich
llwyddiannau yn y meysydd hyn, yn enwedig y rhai sy'n berthnasol
i'r swydd.
Gydag ychydig o ymarfer, bydd y dull pedwar
cam yn eich helpu i drefnu'ch atebion fel y gallwch siarad yn
effeithiol am eich llwyddiannau.
Er enghraifft:
Sefyllfa: Gyda 2
ddiwrnod o rybudd yn unig, roedd rhaid i mi gynllunio a chyflwyno
hyfforddiant ar gyfer 25 o aelodau staff newydd.
Techneg: Yn
seiliedig ar brofiad blaenorol roeddwn i wedi ffeilio'r holl
ddeunyddiau angenrheidiol mewn ffeil llogi ystafell; edrychais ar
ein system cadw ystafell a gweld bod 2 ystafell gynhadledd ar
gael:
Gweithredu:
Casglais wybodaeth, ffurflenni cyflogres a llawlyfrau ynghyd a'u
hanfon at y ganolfan gopïo fel archeb frys; daethant yn ôl o fewn 8
awr; neilltuais un o’r ystafelloedd a oedd ar gael am 3 awr.
Canlyniad: Roeddwn
i'n gallu darparu ar gyfer pob un o'r 25 o weithwyr newydd mewn un
sesiwn, gan arbed mwy na 50 o oriau gweinyddol.
Nawr, adroddwch y
stori:
"Roeddem wedi penodi 25 o bobl newydd, ac yn
hytrach na rhoi cyflwyniad a hyfforddiant staff newydd i bob un
ohonyn nhw ar wahân, penderfynais y byddai'n fwy effeithlon eu
hyfforddi fel grŵp. Ond roeddwn i wedi cael 2 ddiwrnod o rybudd yn
unig, felly roeddwn i'n gweithio i amserlen dynn iawn. Yn seiliedig
ar hyfforddiant ar gyfer staff newydd yn y gorffennol, roeddwn i
wedi trefnu'r holl ddeunyddiau hyfforddi'n barod mewn ffeiliau
ymlaen llaw, felly es i â'r deunyddiau'n bersonol i'r ganolfan gopi
a gofyn iddyn nhw roi blaenoriaeth iddynt. Holais i am ystafelloedd
a oedd ar gael a neilltuo'r un fwyaf o'r ddwy a oedd ar gael.
Gofynnais i ddwy ysgrifenyddes fy helpu i roi'r llawlyfrau
staff newydd at ei gilydd ar ôl i mi gael y copïau yn ôl y diwrnod
nesaf. Ar ddiwrnod yr hyfforddiant, gorffennodd yr holl weithwyr eu
gwaith papur ar yr un pryd a gwnaethpwyd hyn o fewn 3 awr yn unig.
Yn y diwedd roedd hyn wedi arbed 50 o oriau gweinyddol."
I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi
Gweithffyrdd: