Ar ôl y cyfweliad

15. Ar ôl y cyfweliad

Peidiwch â bod yn rhy feirniadol ar ôl y cyfweliad. Canolbwyntiwch ar yr hyn a fu'n llwyddiannus, eich atebion da i'r cwestiynau a'r argraff gadarnhaol gyffredinol rydych wedi'i chreu. Yna ystyriwch y cyfweliad o safbwynt y person arall a gofynnwch y cwestiynau canlynol i'ch hunan:

  • Beth gallwn i fod wedi'i wneud yn wahanol neu'n well?
  • A oeddwn i'n teimlo mod i wedi paratoi digon?
  • Pa gwestiynau atebais yn dda?
  • Ydy'r cwmni'n un yr hoffwn i weithio iddo?
  • A lwyddais i werthu fy hun?

Camau dilynol

Gobeithio eich bod wedi cofio gofyn pryd caiff unrhyw benderfyniadau eu gwneud. Os yw'r dyddiad yn mynd heibio, ffoniwch i ddangos bod gennych ddiddordeb o hyd. Hyd yn oed os na chewch y swydd, gallwch ddysgu o'r profiad a'i ddefnyddio i wella'ch perfformiad yn y dyfodol.

Os na fyddwch yn llwyddiannus, gofynnwch am adborth gan fydd hyn yn eich helpu yn eich cyfweliad nesaf. Dyma rai rhesymau pam nad yw ceisiadau'n llwyddiannus ar y cam hwn:

  • Golwg amhriodol
  • Cyrraedd yn hwyr
  • Ymddangos yn anhrefnus
  • Sgiliau cyfathrebu gwael
  • Diffyg dealltwriaeth o'r sefydliad neu'r swydd (h.y. heb wneud eich gwaith cartref!)
  • Diffyg egni neu frwdfrydedd
  • Tuedd i hel esgusodion a rhoi bai ar eraill
  • Creu'r argraff eich bod yn ymddiddori yn yr hyn gall y sefydliad ei gynnig i chi yn unig.
  • Agwedd wawdlyd, ymosodol neu anghwrtais
  • Diffyg hyder
  • Geirda gwael

"Cofiwch fod mwy o ymgeiswyr na swyddi, felly dylech longyfarch eich hun ar gyrraedd mor bell.  Daliwch ati. Efallai mai'r cyfweliad nesaf fydd yr un sy'n cael y swydd i chi."

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad