Yn y cyfweliad
14. Yn y cyfweliad
Cofiwch fod eich cyfweliad yn gyfle i chi
ddarganfod mwy am y cyfle a phenderfynu a yw'n addas i chi. Cofiwch
gymryd eich amser ac:
- Ymlacio a bod yn hyderus. Atgoffwch eich hun
eich bod wedi cael eich gwahodd i gyfweliad oherwydd eich
CV/ffurflen gais
- Gwenwch, byddwch yn gwrtais ac yn gyfeillgar.
Dylech ysgwyd llaw os yw hyn yn briodol ac aros i gael eich gwahodd
i eistedd. Rhowch sylw i'r person sy'n gofyn cwestiwn a chynnwys y
grŵp cyfan yn eich ateb
- Gwrandewch yn ofalus ar y cwestiynau a meddwl
cyn ateb. Os nad ydych yn deall cwestiwn, gofynnwch yn gwrtais i'r
person ei ailadrodd. Cadwch eich atebion yn gryno, gan bwysleisio
sut mae eich sgiliau a'ch cryfderau yn addas i'r rôl.
- Peidiwch ag aros tan y diwedd i ofyn
cwestiynau. Drwy ofyn cwestiynau yn ystod y sesiwn, byddwch yn
dangos eich bod yn deall ac yn awyddus i wybod mwy.
- Cyn gadael, dylech ddiolch i'r person am ei
amser a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd a sut caiff
penderfyniad ei wneud a'i gyhoeddi. Gofynnwch hefyd am gael adborth
os byddwch yn aflwyddiannus fel y bydd hyn yn brofiad dysgu
cadarnhaol.
Rhai cwestiynau i'w hymarfer cyn y
cyfweliad
Dwedwch fwy
wrthyf amdanoch chi.
Mae'r cwestiwn agored hwn yn rhoi cyfle i chi
ddweud wrth y cyfwelydd am wahanol agweddau ar eich bywyd, y rhai
cymdeithasol, personol a phroffesiynol a sut mae hyn yn berthnasol
i gyflawni'r rôl.
Beth yw eich
cryfderau?
Peidiwch â bod yn swil. Gadewch i bobl wybod
am yr holl rinweddau cadarnhaol a nodwyd gennych ar eich CV.
Beth rydych yn
ei
wybodamdanomni?
Dyma ble bydd eich ymchwil yn dwyn ffrwyth.
Meddyliwch am sut mae hyn yn berthnasol i'r rôl rydych yn ceisio
amdani.
Beth
yweich
gwendidau?
Mae gan bawb rai. Nodwch eich rhai chi a
sicrhewch fod gennych syniadau am sut i'w troi'n gryfderau. Er
enghraifft, os oes angen sgiliau cyfrifiadurol arnoch, rhowch
fanylion cwrs iddynt.
Pam dylem
roi'rswydd i chi yn hytrach na rhywun
arall?
Byddwch yn barod i ateb y cwestiwn hwn yn
hyderus. Wedi'r cwbl, os ydych chi'n ymddangos yn ansicr sut
gallwch ddisgwyl i'r cyfwelydd fod yn fwy sicr?
I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi
Gweithffyrdd: