Paratoi am gyfweliad

13. Paratoi am gyfweliad

Cyn y diwrnod

Mae'n bwysig creu argraff dda. Mae eich CV/ffurflen gais wedi gwneud hyn eisoes. Dyma'ch cyfle i fynd â hyn gam ymhellach drwy ddilyn yr awgrymiadau isod:

  • Ffoniwch i gadarnhau y byddwch yn bresennol ar yr amser a'r dyddiad a gynigiwyd.
  • Gofynnwch pa fath o gyfweliad byddwch yn ei gael. A fydd yn sgwrs gyfeillgar neu'n gyfweliad mwy ffurfiol? A fydd rhaid i chi sefyll prawf?
  • Gofynnwch am ddisgrifiad swydd, copïau o unrhyw gyhoeddiadau busnes neu brosbectws.
  • Gwnewch ragor o ymchwil i'r cwmni.
  • Gwnewch yn siŵr bod cyfeiriad llawn lleoliad y cyfweliad gennych a chyfeiriadau i'w gyrraedd fel y gallwch gynllunio'ch taith. Weithiau mae'n syniad da ymarfer y daith.
  • Gwnewch restr o'r cwestiynau yr hoffech eu gofyn yn ystod y cyfweliad.
  • Gofynnwch i'ch partner neu ffrind ymarfer y cyfweliad gyda chi. Os yw hyn yn achosi embaras, gofynnwch iddynt o leiaf edrych ar eich rhestr o gwestiynau.
  • Ydy'r dillad rydych yn bwriadu eu gwisgo'n lân ac yn daclus ac yn briodol ar gyfer cyfweliad? Mae'n well gwisgo'n rhy ffurfiol nag yn rhy anffurfiol.
  • Rhowch hwb i'ch hyder drwy ddarllen eich CV/ffurflen gais. Wedi'r cwbl dyma'r rheswm maent wedi cynnig cyfweliad i chi.
  • Paratowch eich portffolio i fynd ag ef gyda chi; copi o'r llythyr yn eich gwahodd i'r cyfweliad, eich CV neu gopi o'r ffurflen gais a anfonwyd gennych, unrhyw dystysgrifau neu drwyddedau perthnasol a'r ymchwil rydych wedi'i gwneud.

Ar y diwrnod

Dyma'r amser i sicrhau bod eich holl waith caled hyd yn hyn yn dwyn ffrwyth. Gyda'ch portffolio wrth law, eich cwestiynau'n barod a'ch cynlluniau teithio wedi'u trefnu, dyma'ch cyfle i'ch paratoi eich hun cystal ag y gallwch.

  • Beth i'w wisgo, beth na ddylech ei wisgo. Ar ôl i chi ymchwilio i'r math o sefydliad sy'n rhoi cyfweliad i chi, dylech chi wybod beth yw ei gôd gwisg. Beth bynnag rydych yn ei wisgo, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych yn smart ac yn barod i fod yn aelod o'r tîm. Yn ogystal â chreu argraff dda, bydd hyn yn sicrhau eich bod yn teimlo'n gartrefol. Gwiriwch eich gwallt, eich ewinedd a'ch esgidiau.
  • Byddwch yn broffesiynol ac yn ymwybodol o'ch ymddygiad o'r eiliad rydych yn gadael y tŷ. Wrth gyrraedd lleoliad y cyfweliad, cyflwynwch eich hun yn gwrtais i'r derbynnydd. Dywedwch pam rydych chi yno a phwy rydych wedi dod i'w weld. Cyfeiriwch at y llythyr gwahoddiad yn eich portffolio.
  • Os gofynnir i chi aros, defnyddiwch yr amser i ddysgu mwy am yr amgylchedd. A oes gwybodaeth wrth law megis posteri, taflenni neu adroddiadau? Gwyliwch bobl sy'n cyrraedd ac yn gadael. Am beth maent yn siarad a sut maent yn ymddwyn?

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad