Cyflwyno cais am swydd ar-lein

12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein

Os ydych yn cwblhau cais ar-lein, mae bob amser yn syniad da ei gadw mewn pecyn prosesu geiriau a fydd yn eich galluogi i weithio arno, gwirio'r sillafu, ei argraffu a'i ddarllen yn ofalus cyn cyflwyno'r un gwreiddiol.

Mae rhai ceisiadau electronig yn cael eu sganio'n awtomatig am feini prawf dethol allweddol. I helpu’ch cais i fynd drwy'r cam cychwynnol hwn, rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio'r geiriau priodol o'r disgrifiad swydd. Er enghraifft, os yw'n dweud bod sgiliau cyfathrebu ardderchog yn hanfodol, gwnewch yn siŵr bod eich cais yn cynnwys y geiriau 'sgiliau cyfathrebu'.

Nid yw rhai ceisiadau electronig yn caniatáu i chi gadw'r hyn rydych wedi'i wneud a mynd yn ôl ato. Gall rhai eraill eich cau allan o'r system ar ôl cyfnod penodol.

Manteision

  • Mae pob cais yn edrych yr un peth. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i'r cyflogwr edrych ar wahanol ffontiau, maint papur, cynlluniau etc.
  • Mae ceisiadau'n cyrraedd mewn cyflwr perffaith bob amser. Ni fyddant yn cael eu gwasgu na'u crychu yn y post.
  • Does dim rhaid i chi boeni am eich llawysgrifen.
  • Fel arfer nid yw ceisiadau ar-lein yn caniatáu i chi adael llinellau gwag. Felly, mae'n anodd anghofio cynnwys gwybodaeth bwysig.

Anfanteision

  • Mae angen mynediad i gyfrifiadur arnoch.
  • Mae'n rhaid eich bod yn gallu defnyddio cyfrifiadur.
  • Gall y gwiriwr sillafu eich gwneud yn ddiog neu gallwch anghofio gwirio'r sillafu'n llwyr.

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad