Enghraifft o lythyr holi

10. Enghraifft o lythyr holi

(Eich enw)

10 Ffordd Frickleton

Pinefields

Pen-y-bont ar Ogwr

Ffôn symudol: 07891 234 56789

susan.strong@workways.com

15 Mehefin 2010

Rheolwr y Swyddfa

Ystâd Ddiwydiannol Baglan

Port Talbot

SA12 7DJ

 

Annwyl Syr/Fadam

PARTHED: Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Rwy'n ysgrifennu atoch er mwyn holi a oes unrhyw swyddi gweinyddol gwag ar gael  yn eich cwmni.

Am y chwe blynedd diwethaf rwyf wedi gweithio i gwmni adeiladu mawr fel gweinyddwr a bellach rwy'n chwilio am swydd newydd.

Rwy'n aelod o dîm sy'n gyfrifol am weinyddiaeth feunyddiol swyddfa brysur iawn. Fy mhrif ddyletswyddau yw cynnal cronfa ddata o gwsmeriaid a chyflenwyr, ymdrin â galwadau ffôn, defnyddio amrywiaeth o becynnau Microsoft a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd.

Os nad oes unrhyw gyfleoedd gennych ar hyn o bryd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadw'r llythyr hwn ar ffeil rhag ofn y bydd cyfle ar gael. Diolch am roi o'ch amser i ddarllen y llythyr hwn a gobeithiaf glywed gennych yn y dyfodol.

Byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw swyddi tebyg a allai fod ar gael hefyd.

Byddaf yn ffonio'r wythnos nesaf i gadarnhau eich bod wedi derbyn fy llythyr.

Yn gywir,

 

SUSAN STRONG

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad