Cysylltu dros y ffôn

7. Cysylltu dros y ffôn

Mae cysylltu â rhywun dros y ffôn yn rhoi mantais i chi gan ei fod yn rhoi cyfle i chi baratoi ymlaen llaw. Cyn ffonio, gallwch baratoi'ch lle gwaith a sicrhau bod gennych bopeth wrth law i ateb unrhyw gwestiynau y gellir eu gofyn.

Gallai hyn fod yn ddefnyddiol wrth holi am ddigwyddiadau yn eich ardal leol, holi pa gefnogaeth gofal plant sydd ar gael neu wrth ymateb i hysbyseb am swydd wag. Mewn rhai amgylchiadau, gall galwad ffôn fod yn gam cyntaf proses ddethol a gellir ei recordio. Felly mae paratoi yn hanfodol.

 

Cyn yr alwad

Cofiwch, mae paratoi'n briodol yn osgoi perfformiad gwael. I roi hwb i'ch hyder, darllenwch eich CV/ffurflen gais a chadwch gopi wrth law. Wedi'r cwbl, os ydych wedi anfon un byddant yn cyfeirio ato. Ffoniwch mewn man tawel lle gallwch ganolbwyntio a fydd neb yn torri ar eich traws. Pwyntiau eraill i'w cofio:

  • Os oes hysbyseb, gwnewch yn siŵr bod gennych gopi o'ch blaen.
  • Gall deunyddiau eraill fod yn ddefnyddiol, er enghraifft taflenni budd-daliadau, prosbectws coleg etc
  • Paratowch ychydig o gwestiynau
  • Sicrhewch fod gennych ben a phapur i wneud nodiadau.
  • Bydd angen arian arnoch os ydych yn ffonio o ffôn talu, neu ddigon o gredyd ar eich ffôn symudol
  • Ysgrifennwch enw'r person rydych am siarad ag ef os ydych yn ei wybod neu os yw'n cael ei roi i chi

 

Yr alwad ffôn

Ceisiwch wenu wrth siarad. Gall bobl synhwyro pan fyddwch yn teimlo'n gadarnhaol ac yn hyderus. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn mwynhau'r sgwrs ac yn cofio amdani:

  • Gofynnwch am siarad â'r person cyswllt
  • Anadlwch yn ddwfn a siaradwch yn glir
  • Cyflwynwch eich hun ac esboniwch pam rydych yn ffonio
  • Cofiwch wrando a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n cael ei ddweud
  • Gofynnwch eich cwestiynau. Cofiwch eich bod yn cael sgwrs!
  • Os nad ydych yn gallu clywed yr hyn sy'n cael ei ddweud, peidiwch ag ofni gofyn i'r person arall ei ailadrodd
  • Cynigiwch anfon eich gwybodaeth atynt os nad yw ganddynt eisoes
  • Byddwch yn barod i wneud nodiadau a'u darllen yn ôl i'r person arall os byddwch yn cytuno ar gamau pellach megis cyfarfodydd, cyfweliadau etc
  • Cofiwch ddiolch i'r person am ei amser

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad