Enghraifft o CV

6. Enghraifft o CV

Enw'r Ymgeisydd

98 Stryd xxx, Ardal, Tref, SA12 7PT

Ffôn symudol: 07891 23456789

  • Proffil Personol       

Defnyddiwch y rhan hon i roi crynodeb o'ch rhinweddau personol, y sgiliau a'r galluoedd y gallwch eu cynnig i gyflogwr. Gallwch hefyd sôn am y profiad y gallwch ei gynnig i gyflogwr, y math o swydd rydych yn chwilio amdani a sut gallwch gyfrannu at lwyddiant sefydliad.

  • Hanes Cyflogaeth

Swydd, Cwmni, Lleoliad   Dyddiadau dechrau a gorffen                     

Rhowch ddisgrifiad byr o brif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r rôl. Nodwch fanylion y bobl y buoch yn rhyngweithio â nhw - cwsmeriaid, cydweithwyr a rheolwyr. Rhowch fanylion am y systemau a'r pecynnau cyfrifiadurol roeddech yn eu defnyddio, os ydynt yn berthnasol i'r rôl rydych yn ceisio amdani.

  • Addysg                 

Rhestrwch eich cymwysterau, naill ai yn nhrefn dyddiad, gan ddechrau gyda'r rhai diweddaraf neu gallwch ddechrau gyda'r cymwysterau sy'n fwyaf perthnasol i'r swydd rydych yn ceisio amdani. Rhowch y lefel, e.e. NVQ 2, y corff dyfarnu, y sefydliad lle buoch yn astudio a'r dyddiadau.

  • Hyfforddiant      

Rhestrwch gyrsiau hyfforddi rydych wedi'u dilyn, naill ai yn nhrefn dyddiad neu gallwch ddechrau gyda'r rhai sy'n fwyaf perthnasol i'r rôl rydych yn ceisio amdani.

  • Diddordebau/Hobïau          

Rhowch fanylion cryno am sut rydych yn treulio'ch amser hamdden. Ceisiwch ddangos sgiliau, priodoleddau a galluoedd a allai fod yn ddefnyddiol yn y gweithle, e.e. gweithio mewn tîm, sgiliau cyfathrebu neu alluoedd trefnu.

  • Cyfeiriadau       

Ar gael ar gais.

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad