Eich proffil personol

5. Eich proffil personol

Y proffil personol yw'r rhan bwysicaf o'ch CV. Mae'n ddisgrifiad cryno ohonoch chi. Mae'n gyfle i chi amlygu'ch sgiliau a'ch galluoedd. Hwn fydd y peth cyntaf y bydd y darllenydd yn ei weld a ble caiff ei argraff gyntaf ohonoch chi. Bydd datganiad agoriadol da yn annog y darllenydd i ddarllen ymlaen a bydd datganiad agoriadol gwael yn cael effaith i'r gwrthwyneb.  Dylai fod yn fyr, yn gryno ac yn gadarnhaol.

Enghreifftiau o Ddatganiadau Proffil Personol

(Defnyddiwch y rhain fel canllaw a sicrhewch fod eich proffil personol yn nodi'r hyn sy'n arbennig amdanoch chi)

Person gonest a dibynadwy gyda chofnod presenoldeb a phrydlondeb ardderchog. Rwy'n gweithio'n dda mewn tîm ac ar fy mhen fy hun ac rwy'n dangos ymrwymiad i unrhyw gwmni sy'n fy nghyflogi. Mae gen i sgiliau trefnu da a gallaf ymdopi â sefyllfaoedd anodd wrth weithio o dan bwysau.

Unigolyn dibynadwy a chyfrifol â phrofiad helaeth o weithio mewn warws a gwasanaethau cwsmeriaid. Mae gennyf sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog. Rwy'n gallu gweithio ar fy menter fy hun ac fel rhan o dîm hefyd.

Rwy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac mae gennyf y gallu i drefnu gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi. Rwyf wedi ymgymryd â nifer o weithgareddau gwirfoddol wrth fagu fy mhlant a bellach hoffwn ehangu fy mhrofiad yn y maes hwn.

Mae fy nghryfderau personol yn cynnwys dyfalbarhad ac ystyriaeth dros bobl eraill. Mae gennyf y gallu i siarad ag amrywiaeth o bobl a gallaf esbonio fy syniadau'n eglur. Rwy'n onest a gall pobl ymddiried ynof. Mae gennyf synnwyr digrifwch da a byddaf bob amser yn ceisio gweld safbwynt pobl eraill.

Rwy'n ysgrifenyddes brofiadol iawn â gallu trefnu profedig. Mae gennyf sgiliau cyfathrebu ardderchog a'r gallu i gydweithio â staff ar bob lefel. Rwy'n hunangymhellol ac yn ymdrechu bob amser i wella fy sgiliau a'm gwybodaeth.

Rwy'n berson cydwybodol a hoffwn ddatblygu fy ngyrfa. Ar ôl cael profiad o weithio ym maes gwasanaethau cwsmeriaid, hoffwn ddefnyddio hyn drwy symud i sefydliad mwy. Rwy'n alluog ac yn ddibynadwy a gallaf flaenoriaethu fy llwyth gwaith yn ôl y galw. Rwy'n hunangymhellol iawn ac yn pennu safonau uchel i mi fy hun, wrth weithio ar fy mhen fy hun neu mewn grŵp.

Unigolyn gofalgar a chyfrifol â phrofiad o ofalu am blant ag anghenion arbennig o fewn cartref teulu. Rwy'n delio â materion sensitif ac anodd mewn modd greddfol ac rwyf wedi datblygu gwybodaeth helaeth, drwy amrywiaeth o ffyrdd, i gefnogi a chymell pobl ifanc. Mae fy mhriodoleddau personol yn cynnwys amynedd, dealltwriaeth, stamina corfforol ac ymrwymiad i wella bywydau pobl eraill.

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad