Beth yw CV?

4. CV -  Ar gyfer mwy na chwilio am waith

Beth yw CV? Curriculum Vitae -yn llythrennol, cwrs eich bywyd

Yn ddelfrydol, dylai CV fod yn ddogfen ddwy dudalen sy'n amlinellu'r holl brofiad gwaith, rhinweddau a chyflawniadau personol rydych wedi eu cael a'u datblygu hyd yn hyn. Gallwch gyfeirio at eich CV mewn llawer o sefyllfaoedd:

  • Cofrestru ar gwrs - efallai bydd gofyn i chi roi manylion am y cymwysterau rydych wedi eu hennill a phryd. Gyda CV bydd yn haws cofio amdanynt.
  • Llenwi ffurflen gais - bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth angenrheidiol ar eich CV eisoes.
  • Paratoi ar gyfer cyfweliad  - gall edrych ar eich CV roi hwb i'ch hyder. Wedi'r cwbl, chi ar bapur yw eich CV.
  • Ffonio pan fydd angen i chi roi gwybodaeth - bydd eich CV yn sicrhau na fyddwch yn anghofio am unrhyw beth.
  • Yn eich cyfweliad - ewch â chopi o'ch CV i brocio'r cof.
  • Dechrau gwaith neu feddwl am newid gyrfa -mae llawer o gyflogwyr yn gofyn am gopi o'ch CV y dyddiau hyn. Sicrhewch ei fod yn cynnwys yr holl fanylion am eich cyflawniadau a'ch datblygiadau diweddaraf.
  • Wrth drafod dewisiadau gyrfa - mae eich CV yn lle gwych i ddechrau gan ei fod yn dangos eich cryfderau, eich galluoedd, eich rhinweddau a'ch diddordebau.

Pam mae cyflogwyr yn gofyn am  CV?

Mae recriwtio yn broses ddrud sy'n mynd â llawer o amser. Mae eich CV yn rhoi cyfle i gyflogwr gael argraff gyffredinol ohonoch chi a sicrhau bod eich sgiliau, eich galluoedd a'ch profiad yn cydweddu â'r swydd mae'n ei chynnig.

Mae'n bwysig i chi ddod i adnabod eich hun yn well. Felly, pan fyddwch yn anfon eich CV, byddwch yn gwybod ei fod yn cynnwys y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen ar gyflogwr. Dyma'ch cyfle i gael sylw.

Mae llawer o gyflogwyr yn cadw CVs ar ffeil er mwyn cyfeirio atynt yn y lle cyntaf pan fydd cyfleoedd swyddi eraill ar gael. Mae hyn yn arbed amser ac yn osgoi'r gost o hysbysebu swyddi gwag newydd. Felly, hyd yn oed os nad ydych yn llwyddo i gael y swydd y gwnaethoch gais amdani, mae'n bosib y cewch gynnig swydd yn y cwmni hwnnw.

 

CVda:

  • clir a chryno
  • wedi ei gyflwyno'n dda
  • wedi'i drefnu'n dda
  • wedi'i ysgrifennu'n dda
  • diddorol a pherthnasol
  • mae'n creu argraff dda - gan ganolbwyntio ar eich cyflawniadau
  • cywir - gonest ac yn seiliedig ar dystiolaeth
  • glân heb unrhyw wallau

10 awgrym da ar gyfer paratoi CV da

  1. Ceisiwch fod yn gryno
  2. Os yw CV wedi'i drefnu'n dda bydd yn haws ei ddarllen
  3. Cofiwch gynnwys manylion personol, enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn yn ogystal â chyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol os oes un gennych.
  4. Lluniwch broffil personol sy'n ddarlun cadarnhaol ohonoch chi ac sy'n rhoi argraff gyntaf dda.
  5. Rhestrwch eich rhinweddau, eich sgiliau a'ch cryfderau.
  6. Nodwch eich swydd ddiweddaraf yn gyntaf a gweithio yn ôl (oni bai bod swydd yn y gorffennol yn arbennig o berthnasol).
  7. Nodwch waith rhan-amser, gwirfoddol a hunangyflogedig.
  8. Gwnewch eich disgrifiadau'n fyr ac yn berthnasol.
  9. Nodwch eich holl gyflawniadau, eich hyfforddiant a'ch cymwysterau.
  10. Gadewch le i gynnwys eich gweithgareddau hamdden a'ch diddordebau personol gan eu bod yn dweud llawer amdanoch chi.

Geirdaon - Does dim rhaid cynnwys geirdaon yn eich CV. Rhowch ddatganiad ar waelod y dudalen sy'n dweud bod "geirdaon ar gael ar gais".

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad