Dod o hyd i'r swydd iawn

2. Dod o hyd i'r swydd iawn

Y gyfrinach i ddod o hyd i'r swydd rydych am ei gwneud yw gwybod ble i edrych a'r dulliau i'w defnyddio. Ar unrhyw ddiwrnod bydd llawer o swyddi gwag newydd ar gael. Drwy baratoi a gwybod sut i ymateb, byddwch mewn sefyllfa dda i gael y swydd rydych ei heisiau pryd rydych ei heisiau.

Rhai ffeithiau diddorol am lenwi swyddi gwag:

Mae 6 o bob 10 swydd yn cael eu llenwi heb eu hysbysebu (ar lafar)

Mae 2 o bob 10 swydd yn cael eu llenwi o ganlyniad i gysylltu a holi a oes swydd ar gael

Mae 1 o bob 10 swydd yn cael ei llenwi drwy'r Ganolfan Byd Gwaith

Mae 1 o bob 10 swydd yn cael ei llenwi o ganlyniad i hysbyseb mewn papur newydd

Ble rydych chi'n chwilio am swyddi?

Mae cyfleoedd swyddi i'w cael drwy amrywiaeth o ffynonellau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried pob un ohonynt. Os ydych yn cyfyngu'ch hun i ddefnyddio un o'r dulliau hyn yn unig, rydych yn cyfyngu ar eich chwilio am waith a bydd eich posibiliadau a'ch cyfleoedd yn llai.

Papurau newydd - Yn aml, pan fydd cwmni'n gwybod bod angen staff arnynt, bydd yn gosod hysbyseb mewn papur newydd. Fel arfer, bydd yr hysbyseb yn rhoi amlinelliad byr o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y rôl. Efallai bydd gofyn chi ffonio'r cwmni ynglŷn â'r swydd wag, ysgrifennu gan amgáu eich CV, ysgrifennu i ofyn am ffurflen gais neu hyd yn oed mynd i ddiwrnod agored neu fynd i'w wefan i gyflwyno cais ar-lein.

Swyddi Gwag Cudd - Wrth ddarllen y papurau newydd, dylech fod yn ymwybodol o'r swyddi gwag cudd! Erthyglau yw'r rhain am gwmnïau a allai fod yn agor yn yr ardal leol neu gwmnïau sydd yno eisoes ac sy'n ehangu. Mae'n syniad da cysylltu â nhw cyn iddynt hysbysebu am staff a rhoi gwybod iddynt eich bod ar gael. Fel hyn gallwch ddangos i'r cwmni eich bod yn gweithredu ar eich menter eich hun.

Canolfan Byd Gwaith - Mae llawer o gyflogwyr lleol yn dibynnu ar y Ganolfan Byd Gwaith i recriwtio staff addas a bydd nifer o swyddi gwag ar gael drwy'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae eu gwefan yn cael ei diweddaru bob dydd a gallwch chwilio gan ddefnyddio meini prawf penodol sy'n briodol i'r swydd rydych yn chwilio amdani.

Gwefannau - Yn ogystal â gwefan y Ganolfan Byd Gwaith, ceir llawer o wefannau eraill sy'n hysbysebu cyfleoedd swydd ac mae llawer o gwmnïau mawr yn hysbysebu cyfleoedd sydd ar gael gyda nhw ar eu gwefannau eu hunain. Edrychwch ar y rhestr o 'Wefannau Defnyddiol'.

Rhwydweithio - Cysylltiad Personol - Mae chwech o bob deg swydd yn cael eu llenwi drwy gysylltiad personol! Cadwch mewn cysylltiad â phobl rydych wedi cwrdd â nhw yn y gweithle a'r tu allan iddo er mwyn sicrhau bod gennych gysylltiadau â'r math o waith rydych am ei wneud. Gall hyn olygu y bydd un o'r bobl hyn yn awgrymu'ch enw chi pan ddaw swydd ar gael. Mae hyn hefyd yn ffordd werthfawr o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau a datblygiadau yn eich maes o ddewis.

Ffenestri Siop - Bydd llawer o fanwerthwyr yn osgoi cost hysbysebu swyddi gwag drwy roi hysbysiad yn ffenestr eu siop i ddweud eu bod yn chwilio am staff. Mae gan lawer o fanwerthwyr mawr hysbysfyrddau yn eu hadeiladau sy'n rhestru swyddi gwag. Er bod hyn yn berthnasol i fanwerthu fel arfer, gall mathau eraill o gwmnïau ddefnyddio dull tebyg hefyd. Felly byddwch yn wyliadwrus lle bynnag rydych chi'n mynd.

Cyfeiriaduron - Gallwch ddefnyddio cyfeiriaduron i'ch helpu i ddod o hyd i enwau a chyfeiriadau cwmnïau sy'n arbenigo yn y math o waith rydych yn chwilio amdano. Ar ôl gwneud hyn, gallwch naill ai eu ffonio neu ysgrifennu llythyr, gan amgáu eich CV, sy'n holi am unrhyw swydd wag a allai fod gan y cwmni nawr neu yn y dyfodol i rywun sy'n meddu ar y sgiliau a'r profiad sydd gennych chi.

Asiantaethau Recriwtio - Weithiau bydd cwmnïau sy'n chwilio am weithwyr newydd yn gofyn i asiantaethau recriwtio eu helpu i ddod o hyd i staff addas. Mae rhai asiantaethau yn gweithio mewn sector penodol, e.e. gyrwyr, gwaith â llaw, neu waith ysgrifenyddol a bydd eraill yn ymwneud ag amrywiaeth o fathau o swyddi. Dylech ystyried cofrestru gydag asiantaethau recriwtio gan y byddant yn gallu eich hyrwyddo i gwmnïau sy'n chwilio am staff.

Ffeiriau Swyddi - Mae Ffeiriau Swyddi'n gyfle i chi gwrdd â chyflogwr neu nifer o gyflogwyr sydd am recriwtio staff newydd. Weithiau mae'r rhain yn berthnasol i sector penodol, e.e. swyddi gofal neu gallant gynnwys amrywiaeth o gyflogwyr o nifer o wahanol sectorau. Weithiau bydd cwmnïau mawr yn cynnal eu ffeiriau swyddi eu hunain pan fyddant am recriwtio nifer o weithwyr.

 

I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi Gweithffyrdd:

1.Penderfynu ar y swydd iawn 8. Ysgrifennu Llythyr 15. Ar ôl y cyfweliad
2.Dod o hyd i'r swydd iawn 9. Enghraifft o lythyr eglurhaol 16. Mathau o gyfweliad
3.Gwefannau defnyddiol 10. Enghraifft o lythyr holi 17. 60 o gwestiynau cyfweliadau
4.Beth yw CV? 11. Cwblhau ffurflen gais 18. Cwestiynau i'w gofyn
5.Eich proffil personol 12. Cyflwyno cais am swydd ar-lein 19. Dechrau eich swydd newydd
6.Enghraifft o CV 13. Paratoi am gyfweliad  
7.Cysylltu dros y ffôn 14. Yn y cyfweliad