Penderfynu ar y swydd iawn
1. Ydych chi'n gwybod beth rydych chi am ei
wneud?
Beth sydd gennych i'w gynnig? Efallai fod gennych ddoniau
cudd. Edrychwch arnoch chi eich hun drwy
lygaid rhywun arall, a ydyn nhw'n gweld yr un person â chi pan
fyddwch yn edrych yn y drych. Faint o sgiliau a rhinweddau sydd
gennych y dylai pobl eraill wybod amdanynt?
Dychmygwch eich bod yn ceisio creu argraff
dda, beth byddwch yn ei ddweud?
Dechreuwch drwy ofyn y cwestiynau hyn i chi'ch
hun:
Ydw i'n?
|
Beth sydd gen i i'w
gynnig?
|
Amyneddgar
|
Hyder
|
Ystyriol
|
Bodlonrwydd dysgu
|
Dymunol
|
Dibynadwyedd a phrydlondeb
|
Rhywun y gellir ymddiried ynddo
|
Menter
|
Hyblyg
|
Brwdfrydedd
|
Cadarnhaol
|
Synnwyr digrifwch
|
Ffyddlon
|
Cymwysterau
|
Dibynadwy
|
Profiad
|
Gofalgar
|
Sensitifrwydd
|
Ydw i'n?
|
Ydw i'n?
|
Gwrando
|
Gweithio'n dda mewn tîm
|
Cymell
|
Gweithredu ar fy menter fy hun
|
Annog
|
Gweithio'n dda ar fy mhen fy hun
|
Arwain pobl
|
Adeiladu neu'n dylunio
|
Trefnu pobl a gweithgareddau
|
Dilyn cyfarwyddiadau'n gywir
|
Rheoli
|
Cyfathrebu'n effeithiol
|
Os nad ydych chi'n gwybod yr atebion,
gofynnwch i'r bobl o'ch cwmpas am eu barn. Efallai cewch eich siomi
ar yr ochr orau.
Ewch i'r wefan cyngor ar yrfaoedd, https://nationalcareersservice.direct.gov.uk
i gael cyngor ac arweiniad ar nodi'ch sgiliau, eich rhinweddau a'ch
cryfderau personol eich hun.
I ddechrau chwilio am swydd, edrychwch ar Becyn Swyddi
Gweithffyrdd: