Vale of Neath Business Park

Parc Busnes Cwm Nedd

Mae'r safle hwn ger yr A465 yn Resolfen, wyth milltir i'r gogledd o Gyffordd 43 yr M4 ac mae ganddo gysylltiadau ffordd da sy'n golygu bod marchnadoedd allweddol fel canolbarth a de ddwyrain Lloegr yn hawdd eu cyrraedd.

Mae'r safle yn cynnig cyfuniad manteisiol o unedau am gost isel, ynghyd â mynediad hawdd i ganolfannau diwydiannol ledled y wlad. O ganlyniad, mae'n safle delfrydol ar gyfer cyflenwyr deunyddiau, cydrannau a chyfarpar o bob math.

Mae'n arbennig o addas ar gyfer y diwydiant cyflenwi rhannau car gan fod cwmni pwysig yn y sector hwn eisoes wedi sefydlu dwy uned gynhyrchu yn y parc.

Manylion gweithredwr y safle hwn yw: Spencer Holdings

Ffôn: 01515 452500

Ymholiadau: 0845 365 5555

E-bost: enquiries@spencerpropco.com

Gwefan: http://www.spencerholdingsplc.com/