Gweithffrydd

Croeso I Gweithffyrdd+

Gweithffyrdd +, yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith â thâl, dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith â thâl i 4000 bobl ddi-waith yn y tymor hir i'w helpu i gael eu bywydau'n ôl ar y trywydd iawn.

Cefnogaeth yn targedu cyfranogwyr sy'n byw y tu allan i ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf sy'n anweithgar yn economaidd, wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir neu sydd â rhwystrau i'w goresgyn. Gweithffyrdd+ yn helpu cyfranogwyr i gymryd eu camau cyntaf i ddychwelyd i'r farchnad waith.

Wedi'i gefnogi gan £17.3 miliwn o arian yr UE, bydd y cynllun saith blynedd o fudd i bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion. Darperir gweddill yr arian gan awdurdodau lleol De-orllewin Cymru sy'n rhan o gyflwyno Gweithffyrdd+.

Gweithffyrdd+ hefyd yn cynnig mentora un i un, cefnogaeth i chwilio am swyddi a sgiliau cyfweliad, a'r cyfle i ennill cymwysterau newydd. Bydd y gefnogaeth yn targedu unigolion y mae ganddynt gyflyrau iechyd ac anableddau sy'n cyfyngu ar eu gwaith, yn ogystal â phobl â chyfrifoldebau gofal a phobl heb lawer o sgiliau neu ddim sgiliau o gwbl.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar lwyddiant y prosiect Gweithffyrdd cyntaf a gefnogwyd gan yr UE, a helpodd dros 5,000 o bobl yn ne-orllewin Cymru i gael gwaith rhwng 2009 a 2014.

I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu, cysylltwch ag un o'n tîm.

Workways+ participants

Chwilio am waith?

Bydd Gweithffyrdd yn darparu cefnogaeth unigol i'ch helpu chi ar eich taith at gyflogaeth. Fe wnawn ni eich cynorthwyo i oresgyn unrhyw rwystr at waith.

Workways+ employer

Yn dymuno Cyflogi?

Yn gwneud recriwtio yn haws ac yn gyflymach i gwmnïau, drwy sicrhau bod ymgeiswyr addas ar gael i gyfateb i'ch anghenion.