Young People in Business

Pobl Ifanc mewn Busnes (18 - 31)

Gallai dechrau busnes newydd godi ofn arnoch os ydych yn ifanc ac a phrofiad masnachol prin iawn. Hyd yn oed os oes gennych syniad gwych, efallai y byddwch yn ansicr o sut i lunio cynllun busnes neu lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gallai fod yn anodd codi arian ar gyfer eich busnes os nad oes gennych hanes o lwyddo.

Mae sawl enghraifft o bobl ifanc yn rhedeg busnesau llwyddiannus. Gyda'r arweiniad iawn, gallwch gerdded yn eu hol traed.

Gall y Tîm Datblygu Busnes roi cyngor i'ch helpu i wneud y cam cyntaf i mewn i'r byd busnes cyn hawsed ag y bo modd. Mae cefnogaeth yn cynnwys:

  • marchnata'ch busnes
  • ymchwilio i'ch cynllun busnes a'i baratoi
  • dod o hyd i'r ffordd orau o ariannu'ch busnes

Hefyd, gall y tim eich rhoi mewn cysylltiad a sefydliadau arbenigol sy'n gallu'ch cynorthwyo a:

  • materion treth a TAW
  • cadw llyfrau a rheoli credyd
  • TGCh a datblygiad gwefan