UK Steel Enterprise Ltd

UK Steel Enterprise Ltd (UKSE)

Mae UK Steel Enterprise Ltd yn is-gwmni dan berchnogaeth lawn Corus (Grwp Tata Steel) a chanddo'r cyfrifoldeb o helpu adfywiad economaidd cymunedau a effeithiwyd gan newidiadau yn y diwydiant dur.

Gan weithio gydag ardaloedd dur ledled y DU, darperir cefnogaeth ariannol i fentrau bach a chanolig drwy'r canlynol:

  • Ecwiti a/neu fenthyciadau gyllid ar gyfer busnesau sy'n cychwyn, ehangiadau, caffaeliadau, a phrynu cyfrannau sy'n gweithredu yn y sectorau busnes gweithgynhyrchu a'r rhai sy'n gysylltiedig â gwasanaethau.
  • Cyfalaf cyfrannau a phecynnau cyfrannau/benthyciadau hyd at £750,000 (trafodir amodau'n unigol ar gyfer pob buddsoddiad).
  • Benthyciadau wedi'u gwarantu hyd at £750,000.
  • Benthyciadau bach heb eu gwarantu.

Gall fod arian hefyd ar gael gan y Cynllun Gwarant Cyllid Menter a gefnogir gan y Llywodraeth, ar gyfer prosiectau busnes addas.

Am fwy o wybodaeth am y pecynnau ariannu uchod, ffoniwch UK Steel Enterprise Ltd ar 02920 471122, e-bost: wales@uksteelenterprise.co.uk neu ewch i www.uksteelenterprise.co.uk