Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Mae cyllid ar gael i fusnesau yn ystod pob cam twf. Os ydych chi'n gymwys ac yn barod am fuddsoddiad, mae gennych lawer o opsiynau. Mae cyllid yn amrywio o £1,000 hyd at    £5 miliwn ac mae benthyciadau ac ecwiti ar gael. Gallwch ad-dalu'r arian dros gyfnodau o hyd at 10 mlynedd, gan roi'r amser a'r lle sydd ei angen arnoch i gyflawni eich potensial.

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y Banc yn buddsoddi dros £400 miliwn. Bydd hefyd yn treblu argaeledd micro-gyllid. Pan fydd buddsoddiad y sector breifat a'r arian sydd ar gael i brynwyr cartrefi trwy gyfrwng Cymorth Prynu - Cymru yn cael ei gymryd i ystyriaeth, mae'r Banc yn anelu at gael effaith biliwn o bunnoedd ar economi Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r banc datblygu ar 0800 587 4140 neu ewch i weld https://bancdatblygu.cymu

Mae'r banc datblygu hefyd yn rheoli Buddsoddiadau Angylion Cymru, y rhwydwaith angylion mwyaf yng Nghymru, sy'n ymgysylltu buddsoddwyr profiadol â busnesau sy'n chwilio am fuddsoddiad preifat.​

Am ragor o wybodaeth ewch i weld https://bancdatblygu.cymru/gwasanaethau-eraill/buddsoddiadau-angylion-cymru