Ffynonellau Arian

Mae creu cyfleoedd cyflogaeth lleol trwy annog busnesau i gyflawni prosiectau sy'n eu galluogi i dyfu a chreu swyddi yn flaenoriaeth allweddol i'r Tim Datblygu Busnes

I'n helpu i gyflawni hyn, rydym yn gweinyddu ac yn hyrwyddo amrywiaeth o gymhellion ariannol i gefnogi cychwyn busnesau newydd a'r rhai sy'n adleoli neu'n ehangu yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae'r arian ar gyfer dechrau busnesau newydd bellach ar gael trwy raglenni'r Cyngor Innov8.

Gellir cael hyd i fuddsoddiad masnachol trwy Cyllid Cymru, Xénos - Rhwydwaith Angylion Busnes Cymru ac UK Steel Enterprise.