Gweithdrefnau Caffael

Gweithdrefnau a Rheoliadau Caffael

Cyfeirir at weithdrefnau ar gyfer prynu fel "Rheolau Gweithdrefnau Contractau”. Maent yn bwysig am eu bod yn helpu i:

  • roi fframwaith cyfreithiol ac anchwiliadwy i'n gweithgareddau caffael
  • cael gwasanaethau gwerth am arian i'r cyhoedd
  • sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r gyfraith sy'n rheoli gwario arian cyhoeddus
  • amddiffyn ein staff a'n haelodau rhag beirniadaeth ormodol neu honiadau o gamwedd.

Dyma grynodeb o'n prif weithdrefnau caffael:

  • I brynu pethau o dan £5000, rhaid cael o leiaf un dyfynbris (oni bai y caiff ei brynu drwy un o'n contractau corfforaethol).
  • I brynu pethau dros £5,000, rhaid ceisio o leiaf tri dyfynbris/tendr ysgrifenedig.
  • I brynu pethau dros £50,000, rhaid ceisio tri thendr ysgrifenedig gan ddefnyddio dogfen gwahoddiad ffurfiol i dendro.

Mae'n ofyniad cyfreithiol hefyd i gydymffurfio â Chyfarwyddebau Caffael yr UE ar gyfer contractau dros drothwyau penodol.

Ym mis Hydref 2007, roedd y trothwyau hyn yn £144,371 ar gyfer gwasanaethau a chyflenwadau a £3,611,319 ar gyfer contractau gwaith.

Mae'r rheoliadau'n seiliedig ar yr egwyddor ganlynol.

  • Rhaid hysbysebu contractau sy'n fwy na'r trothwyau yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) fel y gall yr holl bartïon sydd â diddordeb mewn aelod-wladwriaethau gael cyfle cyfartal i gyflwyno tendrau;
  • Rhaid i bob ymholiad dderbyn triniaeth gyfartal er mwyn dileu gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd y contractwr neu darddiad y cyflenwadau, y gwasanaethau neu'r gwaith; a
  • Rhaid i holl weithdrefnau dewis, tendro a dyfarnu cyflenwyr gynnwys defnyddio meini prawf clir a gwrthrychol.