Cynnal Busnes gyda'r Cyngor

Cynnal Busnes gyda'r Cyngor Rhagarweiniad

Mae'r Cyngor yn darparu nifer o gyfleoedd i fusnesau sydd am gyflenwi eu nwyddau a'u gwasanaethau.

Bob blwyddyn, mae oddeutu £100 miliwn yn cael ei wario ar amrywiaeth eang o nwyddau, deunyddiau, gwasanaethau neu waith.

Er y bydd rhai contractau'n agored i dendrau gan fusnesau ledled y DU, mae'r Cyngor yn annog busnesau lleol sefydledig a newydd i archwilio'r posibilrwydd o gyflenwi nwyddau neu wasanaethau.