Cefnogi Busnesau Twristiaeth



Mae twristiaeth yn rhan bwysig a datblygol o economi Castell-nedd Port Talbot.

Yn 2016 yn unig daeth 1.47 miliwn o ymwelwyr i'r ardal, gan gyfrannu £110 miliwn at yr economi leol. Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn darparu mwy na 1,578 o swyddi yn yr ardal.

Ar y dudalen hon, ceir amrywiaeth o wybodaeth o'n Cynllun Rheoli Cyrchfannau trosgynnol i ymchwil ymwelwyr ac ystadegau sy'n ymwneud â Chastell-nedd Port Talbot.

Lawrlwythiadau

Cynllun Rheoli Cyrchfannau Castlell-nedd Port Talbot 2015-2020
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Cynllun Rheoli Cyrchfannau
3.42 MB
Ymchwil Ymwelwyr sy'n ymwneud â Chastell-nedd Port Talbot
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Neath Port Talbot Visitor Research Report 2017
1.02 MB
pdf Neath Port Talbot Visitor Research 2017 - Cross Tabulations
131 KB
pdf Wales National Visitor Survey 2016 - Neath Port Talbot Findings
457 KB
Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete
Maint a Gwerth Twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Neath Port Talbot STEAM Statistics 2016
185 KB
Beicio mynydd yng Nghymru: Ydych chi mewn ger i wynebu'r her
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
pdf Beicio mynydd yng Nghymru Ydych chi mewn ger i wynebu'r her
1.50 MB


Cronfa Ffotograffau Cyrchfannau Castell-nedd Port Talbot

Bwriedir i Gronfa Ffotograffau Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot gael ei defnyddio gan weithredwyr twristiaeth a'r rhai sy'n gysylltiedig â hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae'r gronfa ffotograffau'n cynnwys lluniau o atyniadau twristiaeth yr ardal, tirluniau a gweithgareddau awyr agored eraill.

Mae busnesau o sectorau eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd yn gallu defnyddio'r ffotograffau at ddibenion mewnfuddsoddi.

I ddefnyddio Cronfa Ffotograffau Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot, lawrlwythwch a chwblhewch y cytundeb canlynol.
Cytundeb Banc Lluniau Twristaidd Castell-Nedd Port Talbo
Math o ffeil Dogfen Maint ffeil
docx Cytundeb Banc Lluniau Twristaidd Castell-Nedd Port Talbot
806 KB

Prosiect Datblygu Twristiaeth Yng Castell-nedd Port Talbot 2016-2019

             

Bydd y Prosiect Datblygu Twristiaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot yn cynorthwyo gweithredwyr twristiaeth i godi proffil Castell Nedd Port Talbot fel cyrchfan i ymwelwyr.

Bydd y Prosiect Datblygu Twristiaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot yn:

  • Mapio anghenion gweithredwyr twristiaeth o ran datblygu busnes yn wardiau gwledig Castell Nedd Port Talbot ac yn rhoi cyngor ynghylch ble i gyrchu cymorth i fusnes
  • Ymchwilio i anghenion a dymuniadau ymwelwyr â wardiau gwledig Castell Nedd Port Talbot
  • Cynnal digwyddiadau rhwydweithio ‘ymwybyddiaeth o le’ ar gyfer gweithredwyr twristiaeth
  • Sefydlu rhwydweithiau o weithredwyr twristiaeth yn wardiau gwledig Castell Nedd Port Talbot gyda golwg ar ddarparu gweithgareddau rheoli cyrchfan
  • Trefnu prosiect peilot i greu porth digidol i ddarparu gwybodaeth i ymwelwyr am Gastell Nedd Port Talbot.

Ariennir y prosiect Datblygu Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I ddysgu rhagor am y Prosiect Datblygu Twristiaeth yng Nghastell Nedd Port Talbot galwch Twristiaeth ar 01639 686417 neu anfonwch e-bost Itourism@npt.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y GDPR), a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, yn rheoli sut y mae Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn ymdrin â'ch gwybodaeth. Mae Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gael trwy'r ddolen ganlynol http://www.npt-business.co.uk/16126