Datganiad Preifatrwydd

Fel rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, mae gan Gweithffyrdd+ arfer Diogelu Data ar waith i oruchwylio bod eich data personol yn cael ei brosesu'n effeithiol ac yn ddiogel yn unol â gofynion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DDD).

Mae Gweithffyrdd+ yn brosiect a ariennir gan yr UE.  Arweinir y prosiect gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion.

Er mwyn bodloni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a rhoi tystiolaeth o gyflawni canlyniadau prosiectau, mae'n rhaid i Gweithffyrdd+ gofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr y prosiect.  Os ceir cais, rhennir yr wybodaeth uchod â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a gwerthuswyr trydydd parti.  Efallai bydd y sefydliadau hyn am gysylltu â chyfranogwyr i ddilysu eu cyfranogaeth yn y prosiect a chasglu adborth.

Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i Gweithffyrdd+ (gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwyd i ni drwy'r cymwysiadau gwasanaeth ar y wefan hon (www.workways.wales) rydych yn cydnabod mai Gweithffyrdd+ yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol a ddarparwyd i ni.

Pam mae angen eich data arnom?

Caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gan Gweithffyrdd+ ar gyfer un neu fwy o'r dibenion canlynol:-

  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni contract gyda chi eich hun neu er mwyn cymryd camau, ar eich cais, cyn ymrwymo i gontract o'r fath;
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn i Gweithffyrdd+ gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'n destun iddo (Erthygl 6(c) y GDPR);
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd gan y cyngor neu fel rhan o arfer awdurdod swyddogol sydd gan y cyngor (Erthygl 6(e) y GDPR);
  • Mae'r prosesu'n angenrheidiol at ddibenion buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y cyngor neu drydydd parti.

Ni fydd y cyngor yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall heblaw am y rheini a nodir uchod.

Beth rydym yn ei wneud ag ef?

  • Er mwyn bodloni gofynion adrodd y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer prosiectau a ariennir gan  Gronfa Gymdeithasol Ewrop a rhoi tystiolaeth o gyflawni canlyniadau prosiectau, mae'n rhaid i Gweithffyrdd+ gofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr y prosiect.  Os ceir cais, rhennir yr wybodaeth uchod â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a gwerthuswyr trydydd parti.  Efallai bydd y sefydliadau hyn am gysylltu â chyfranogwyr i ddilysu eu cyfranogaeth yn y prosiect a chasglu adborth.
  • Prosesir yr holl ddata personol rydym yn ei brosesu gan ein staff yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion lletya TG a chynnal a chadw, cedwir yr wybodaeth hon ar weinyddion yn yr Undeb Ewropeaidd ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
  • Ni fydd y cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.
  • Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag adrannau'r cyngor hyd y caniateir hynny gan y gyfraith ac ni fyddwn yn rhannu'ch data â thrydydd partïon oni bai fod rhaid i ni neu fod gennym ganiatâd i wneud hynny yn ôl y gyfraith (e.e. o dan y GDPR, y DDD neu unrhyw ddeddfwriaeth arall).
  • Byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel â darparwyr gwasanaethau sy'n cyflawni cyfrifoldebau ar ran y cyngor, ond byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth o'r fath yn cael ei diogelu drwy Drefniadau Prosesu Data sy'n cydymffurfio â'r GDPR.

Am faint o amser rydym yn cadw'r data?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw gan y cyngor yn unol â gofynion a nodwyd mewn deddfwriaeth ac, yn gyffredinol (yn amodol ar unrhyw ofynion cyfreithiol i'r gwrthwyneb) tan fis Rhagfyr 2026. Er hynny, lle rydych wedi darparu gwybodaeth i ni at ddibenion marchnata, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw gennym tan eich bod yn rhoi gwybod i ni nad ydych am dderbyn yr wybodaeth hon mwyach.

Beth yw eich hawliau chi?

O dan y GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'ch data personol:

  • Hawl i gael mynediad at eich data personol a gedwir gan y cyngor;
  • Hawl i gywiro unrhyw wallau yn eich data personol;
  • Hawl i ddileu data personol a gedwir gan y cyngor (mewn amgylchiadau penodol);
  • Hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol (mewn amgylchiadau penodol);
  • Hawl i wrthwynebu i'r cyngor ddefnyddio eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol;
  • Hawl i drosglwyddo data (mewn amgylchiadau penodol)

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr hawliau uchod o Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth; gellir hefyd gael gwybodaeth ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Os ydych am wrthwynebu i'r cyngor ddefnyddio'r wybodaeth hon neu am ddiwygio unrhyw wybodaeth, gallwch hysbysu'r cyngor ar unrhyw adeg, a fydd yn ystyried unrhyw gais, ond sylwer, gall hyn gael effaith ar natur y gwasanaethau y bydd y cyngor yn eu darparu i chi.

Hefyd, sylwer bod peth gwybodaeth bersonol y mae'n rhaid i'r cyngor ei chadw amdanoch o ganlyniad i'n gofynion cyfreithiol.

Os ar unrhyw adeg y credwch fod yr wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu amdanoch chi'n anghywir, gallwch ofyn i weld yr wybodaeth hon ac iddi gael ei chywiro neu ei dileu. Os ydych am gwyno am sut rydym wedi trafod eich data personol, gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Gellir cysylltu â'n Swyddog Diogelu Data yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a'r Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ

Os ydych wedi cyflwyno cais a/neu gŵyn i'r cyngor ac nid ydych yn fodlon ar ein hymateb, neu rydych yn credu ein bod yn prosesu eich data personol mewn modd nad yw'n cydymffurfio â'r gyfraith, gallwch gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y wefan