Mae Castell-nedd Port Talbot wedi ei weddnewid yn helaeth, diolch i lefelau sylweddol o fuddsoddiad gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac o ganlyniad i hyn mae adfywio arwyddocaol a newid er gwell i'w weld mewn nifer o'n cymunedau.

Neath Port Talbot County Borough is located at the centre of the South Wales economy along the M4 corridor with direct access to London, the South East of England, other parts of the UK and Europe.

Mae dechrau busnes yn gyffrous ac yn rhoi boddhad, ond mae hefyd yn llawn heriau.

Mae amrywiaeth o help a chyngor ar gael i bobl sydd am ddechrau, ehangu neu adleoli eu busnesau i Gastell-nedd Port Talbot.

Mae'r Cyfeiriadur yn cynnwys manylion dros 900 o gwmnïau lleol sy’n darparu adnodd delfrydol i ganfod cyflenwyr lleol a chwsmeriaid fydd yn cryfhau'r economi leol.

The Swansea Bay City Region encompasses the areas of Pembrokeshire, Carmarthenshire, Neath Port Talbot and Swansea. City Regions offer a new approach to economic regeneration.

Ceir amrywiaeth eang o adeiladau a safleoedd diwydiannol yn ardal Castell-nedd Port Talbot, gan amrywio o 300 troedfedd sgwâr i fwy na 50,000 troedfedd sgwâr

Mae canllaw'r ‘Byd Busnes’ yn hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot fel man lle gall busnesau dyfu a ffynnu gyda chyfleoedd gwirioneddol i fuddsoddwyr yn yr ardal.

Gyda chefnogwyr rygbi a gŵyr pwysig tramor ymysg y rhai sy'n dwlu arnynt, mae salami a chigoedd wedi'u halltu Charcuterie Cwm Farm yn ennill enw da am flas ac arloesedd.

Dechreuodd stori Cwm Farm wyth mlynedd yn ôl pan ddechreuodd Andrew Davies a'i wraig, a oedd yn weinyddwr ysgol, fagu moch Cyfrwyog a Gloucestershire Old Spot yn eu tyddyn yn Rhydyfro ger Pontardawe.

Yn y lle cyntaf, roedden nhw'n bwriadu cynhyrchu porc a selsig iddyn nhw eu hunain, ond cawsant y fath ymateb gan ffrindiau a theulu y penderfynon nhw ehangu'r cynhyrchu a'u gwerthu i'r cyhoedd.

Meddai Ruth, "Prynon ni ôl-gerbyd arlwyo - Poacher’s Pantry – a gwerthon ni'n cig moch a'n selsig ar yr A4067 ym Mhontardawe."

Wrth edrych am ffyrdd o ychwanegu mwy o werth at eu cynnyrch porc, aeth Ruth ar ymweliad canfod ffeithiau â Denmarc, lle gwelodd salami'n cael ei wneud am y tro cyntaf - ac roedd yn agoriad llygad iddi.

"Hwn oedd y rhywbeth ychwanegol roeddwn i wedi bod yn chwilio amdano," meddai Ruth "ac mae gan ein moch cyfrwyog y gymhareb braster gywir ar gyfer gwneud salami hefyd."

Gyda chymorth gan brosiect cefnogi bwyd-amaeth sef Cywain, a 18 mis o gyngor a hyfforddiant technegol yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, crëodd Ruth ac Andrew dri math o salami.

Drwy gymorth gan dîm busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, aeth y cwpl ati i greu eu pencadlys Salami ar Ystâd Ddiwydiannol Pontardawe, a phrynu cyfarpar arbenigol - gan gynnwys cabinet sychu - o'r Eidal.

Meddai Ruth, "Rydym wedi gweithio gyda thîm busnes y cyngor o'r cychwyn, ac maent wedi rhoi llawer o gyngor gwych i ni ym mhob maes, gan gynnwys o ble i gael grantiau fel y gallwn dyfu'n busnes."

Mae'r fenter cartref hon wedi datblygu'n fenter ffyniannus sy'n cynhyrchu amrywiaeth blaengar ac arobryn o salami a chigoedd wedi'u halltu.

Mae nifer cynyddol y cleientiaid sydd ganddynt yn arbennig o gryf yn Llundain, lle mae rhai o'r bwytai gorau a'r manwerthwr eiconig, Selfridges, ymysg eu cwsmeriaid.

Maent wedi ymddangos ym mharadwys y rhai sy'n dwlu ar fwyd sef Marchnad Borough, ac maent newydd gael eu cynnwys ar y fwydlen ym mwyty newydd Tomos Parry sef ‘Brat’ yn Shoreditch.

Meddai Ruth, "Mae wedi bod yn daith anhygoel gyda rhai cyfleoedd arbennig, ac mae gallu gweithio gyda phobl rydym wedi cwrdd nhw ar hyd y ffordd yn wych.

Mae amrywiaeth o gynnyrch Cwm Farm wedi cael ei weini mewn derbyniad yn Downing Street i'r Prif Weinidog Theresa May, ac yn Llysgenhadaeth Prydain yn y Ffindir hefyd.

Yn agosach at gartref, mae cigoedd charcuterie Cwm Farm ar gael ym Mharc y Scarlets, marchnadoedd ffermwyr, delis a bwytai lle cânt eu gwerthu mewn amrywiaeth o flasau a meintiau a gellir eu gweini mewn sawl ffordd.

Mae Tîm Busnes y cyngor ar hyn o bryd yn helpu Cwm Farm gyda'i phrosiect ehangu nesaf - creu ystafell sychu 'wal halen' ac ardal reweiddiad.

Esboniodd Ruth, "Mae wal halen yn golygu defnyddio blociau o halen pinc Himalaiaidd sy'n helpu i sychu'r salami, ac rydym yn paratoi'r ystafell gyda help CBSCNPT."

Meddai'r Cyng. Annette Wingrave, "Rydym mor falch bod y Tîm Busnes wedi gallu gweithio gyda'r hyn a oedd i ddechrau'n fusnes bach, i dyfu ac ehangu ei gynnyrch. Wrth ddatblygu'r wal halen newydd, bydd y cwmni'n gallu dargyfeirio ac ehangu i farchnadoedd newydd. Dymunwn y gorau i Ruth ac Andrew gyda'r busnes."