Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Hysbysiad Preifatrwydd

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y GDPR), a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, yn rheoli sut y mae Gwasanaeth Twristiaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yn ymdrin â'ch gwybodaeth.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth a'r hawliau sydd gennych mewn perthynas â'r GDPR.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol sydd gan y Gwasanaeth Twristiaeth amdanoch.

1. Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth sylfaenol am eich busnes yn y ffyrdd canlynol;
• Wrth gasglu rhestr bostio a stoc llety'r diwydiant twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.
• Rhestr ar-lein o ddarparwyr llety, darparwyr gweithgareddau ac atyniadau yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cael ei harddangos ar wefannau a weithredir gan CBSCNPT www.dramaticheart.wales a www.afanforestpark.co.uk.
• Wrth gyflwyno unrhyw gyngor a chymorth uniongyrchol i'ch busnes mewn partneriaeth â Thîm Datblygu Economaidd CBSCNPT.
Yn ogystal â'r gweithgareddau uchod, gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth i fodloni gofynion adrodd ar gyfer prosiectau penodol sy'n cael eu cyflwyno gan y Gwasanaeth Twristiaeth. Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot gofnodi gwybodaeth am gyfranogwyr prosiectau y mae'n eu cyflwyno.
Ar gais, bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei rhannu ag adrannau eraill Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), a fydd efallai am gysylltu â chi er mwyn cadarnhau eich cyfranogaeth yn y prosiectau parhaus sy'n cael eu cyflwyno gan Wasanaeth Twristiaeth CBSCNPT.
Gellir rhannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill hefyd lle mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny.

2. Gwybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi

Mae'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch yn dibynnu ar sut rydych yn cysylltu â Gwasanaeth Twristiaeth CBSCNPT.

Rhestr Bostio a Rhestr Stoc Llety'r Diwydiant Twristiaeth - Mae gennym restr o'r holl weithredwyr twristiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol;
Enw'r busnes
Enw cyswllt personol
Rhif ffôn
Cyfeiriad e-bost
Cyfeiriad y wefan
Data stoc llety ar gyfer pob busnes llety unigol. 

Gallwch ddewis peidio â bod ar y rhestr bostio ar unrhyw bryd drwy e-bostio tourism@npt.gov.uk, fodd bynnag, byddwn yn parhau i gadw manylion stoc llety pob darparwr llety er mwyn cyfrifo darpariaeth llety yn yr ardal.

Os byddwch chi’n ymuno â’n rhestr bostio trwy lenwi ffurflen ymuno ar www.dramaticheart.wales byddwn ni’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i wneud y canlynol:

  • Anfon llythyr newyddion Calon Ddramatig Cymru yn achlysurol i’r cyfeiriad e-bost a roesoch i ni.
  • Anfon gwybodaeth atoch am newyddion, digwyddiadau neu eitemau hyrwyddo rydym ni’n teimlo fyddai o ddiddordeb i chi.

Gallwch adael y rhestr bostio ar unrhyw adeg trwy glicio ar y ddolen berthnasol mewn unrhyw e-bost a gewch oddi wrthym, neu gallwch anfon e-bost atom ni yn tourism@npt.gov.uk neu gysylltu â’r Gwasanaeth Twristiaeth dros y ffôn ar 01639 686417.

Byddwn ni’n defnyddio eich cyfeiriad e-bost personol i anfon gwybodaeth atoch chi, fel y nodir uchod.

Rydym yn defnyddio system o'r enw Campaign Monitor i ddosbarthu ein cylchlythyr.. Caiff y data personol hwn ei gasglu dim ond pan fyddwch yn rhoi eich caniatâd yr ydych am gael eich hysbysu.

Mae'r wybodaeth isod yn cael ei chadw'n ddiogel ar daenlen Microsoft Excel ynghyd ag mewn cronfa ddata ddiogel a gynhelir gan Wasanaeth Datblygu Economaidd CBSCNPT. Mae pob copi papur o ddogfen yn cael ei chadw'n ddiogel mewn cypyrddau wedi'u cloi.

Cyfarfodydd Rhandeiliaid (Grwpiau Tasg a Gorffen) - Os ydych wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod rhandeiliad sy'n gysylltiedig â chyflwyno Cynllun Rheoli Cyrchfannau Castell-nedd Port Talbot, byddwch wedi darparu'r wybodaeth ganlynol er mwyn cofrestru'ch presenoldeb yn y cyfarfod;
Enw
Enw'r cwmni/sefydliad
Cyfeiriad e-bost
Rhif ffôn

Rhestrau ar www.dramaticheart.wales www.afanforestpark.co.uk- Os ydych yn ddarparwr llety, bydd eich cyfeiriad gwefan a chyfeiriad eich busnes (gan gynnwys map ar Google) yn cael eu hychwanegu at y gwefannau uchod, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol arall sy'n cynnwys graddfeydd sêr a gwelyau sydd ar gael. Os ydych yn ddarparwr gweithgareddau neu'n atyniad, bydd cyfeiriad eich gwefan yn cael ei gynnwys yn adrannau perthnasol y gwefannau uchod.

Cael mynediad at gronfa Digwyddiadau Twristiaeth CBSCNPT – os byddwch yn cyflwyno cais am gyllid drwy'n Cronfa Ddigwyddiadau, bydd yn rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol
Enw cyswllt
Enw'r busnes/sefydliad
Cyfeiriad
Côd Post
Rhif ffôn
Cyfeiriad e-bost
Cyfeiriad y wefan
Gwybodaeth ariannol mewn perthynas â'ch digwyddiad
Tystysgrifau yswiriant perthnasol a allai gynnwys gwybodaeth bersonol.

Wrth roi unrhyw gyngor neu gymorth uniongyrchol i'ch busnes - Os ydych wedi derbyn, neu'n bwriadu derbyn, cyngor neu gymorth gan unrhyw aelod o Dîm Twristiaeth neu Dîm Datblygu Economaidd CBSCNPT, gweler Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Datblygu Economaidd CBSCNPT ar Wefan Busnes CNPT.

Digwyddiadau Ymdeimlad o Le -  Os ydych wedi mynychu digwyddiad Ymdeimlad o Le, gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol;
Enw
Cyfeiriad
Rhif ffôn
Rhyw
A ydych chi'n siarad Cymraeg
Enw eich busnes/sefydliad a'r wardiau y mae'n gweithredu ynddynt.

Ymarfer Mapio Datblygiad Busnesau - Os ydych wedi cwblhau holiadur gyda'r Gwasanaeth Twristiaeth, gofynnir i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol;
Enw
Cyfeiriad
Rhif ffôn
Rhyw
Eich ystod oedran
A ydych chi'n siarad Cymraeg
Enw eich busnes/sefydliad a'r wardiau y mae'n gweithredu ynddynt.
Gwybodaeth fanwl am weithrediad eich busnes

• Cronfa Ffotograffau
Er mwyn cael mynediad at Gronfa Ffotograffau Twristiaeth Castell-nedd Port Talbot, bydd angen i chi gwblhau cytundeb syml sy'n amddiffyn CBSCNPT rhag unrhyw golledion sy'n gysylltiedig ag atgynhyrchu ffotograffau'n anghyfreithlon. Fel rhan o'r cytundeb hwn, byddwch yn darparu'r wybodaeth ganlynol am eich busnes;
Enw cyswllt
Enw'r busnes/sefydliad
Cyfeiriad
Côd Post
Rhif ffôn
Cyfeiriad e-bost
Cyfeiriad y wefan

3. Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch gwybodaeth ac am ba hyd y byddwn yn ei chadw

Byddwn yn prosesu'ch gwybodaeth ar y sail gyfreithiol ganlynol:
(i) Mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol sydd ar reolwr y data. Erthygl 6 (c) GDPR
(ii) Mae prosesu’r data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu gan ymarfer awdurdod swyddogol a roddwyd i reolwr y data. Erthygl 6 (e) GDPR.

Caiff eich gwybodaeth ei chadw gyhyd ag y mae eich busnes/sefydliad wedi’i leoli  ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn gweithredu yno.

Os yw eich busnes/sefydliad yn rhoi'r gorau i fasnachu, neu'n symud o'r fwrdeistref sirol, caiff eich gwybodaeth ei chadw am gyfnod digonol i ganiatáu i ni allu ymateb i unrhyw gwestiynau a allai godi o ganlyniad i hynny.

Os yw eich busnes/sefydliad wedi derbyn arian grant, cedwir eich gwybodaeth fel uchod ac am hyd at chwe blynedd ychwanegol, yn unol â pholisi cadw dogfennau'r Cyngor.

Os byddwch wedi dewis derbyn eitemau newyddion perthnasol am y diwydiant twristiaeth gan CBSCNPT drwy restr bostio'r diwydiant twristiaeth, byddwch wedi cytuno ein bod ni’n prosesu eich data. Byddwn yn parhau i gadw eich gwybodaeth ar hyd oes eich busnes/sefydliad neu nes i chi wneud cais i gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio drwy e-bostio tourism@npt.gov.uk.

4. Pan na fydd angen eich gwybodaeth mwyach, caiff ei dinistrio'n ddiogel.

Sylwer ei bod hi'n ofynnol i ni gasglu data personol penodol yn unol â gofynion statudol ac yn yr achosion hyn gallai'r Cyngor fethu â darparu gwasanaeth i chi a/neu gallech fod yn agored i achosion cyfreithiol os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth honno i ni. 
Hoffem eich hysbysu bod gennych yr hawl, o dan Erthygl 21 GDPR, i fynegi gwrthwynebiad wrth yr awdurdod ar unrhyw adeg am y ffaith ein bod ni’n prosesu eich data personol fel uchod. 
Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.  Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym ni yn digwydd yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.
Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Eich hawliau o ran eich gwybodaeth

Sylwer bydd gan unigolion yr hawliau canlynol mewn perthynas â'u data personol o dan GDPR:
i.Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
ii.Yr hawl i gael cywiro data gwallus gan reolwr data.
iii.Yr hawl i gael dileu eu data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig). 
iv.Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan rai amgylchiadau cyfyngedig).
v.Yr hawl i wrthwynebu defnyddio’u data ar gyfer marchnata uniongyrchol.
vi.Yr hawl i ddata cludadwy (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).
Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn i’r comisiynydd gwybodaeth ynghylch unrhyw achos o dorri eich hawliau diogelu data. Mae manylion ynghylch sut gallwch chi wneud hynny ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk  

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: www.ico.org.uk.  

5. Sut mae cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae CBSCNPT yn defnyddio'ch gwybodaeth neu os ydych am gysylltu â ni i wneud cwyn am ein defnydd o'ch gwybodaeth, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data CBSCNPT ar y cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ