Darren has a fresh start thanks to Workways+
Darren yn cael dechrau newydd gydag ‘Our Place’
Diolch i gefnogaeth Gweithffyrdd+, mae Darren Casseldine, 46 oed, wedi llwyddo i ddod o hyd i waith yn Our Place ym Mhontarddulais.
Roedd Darren, saer coed cymwys o ran ei grefft, wedi gweithio ar hyd ei oes, er hynny, gwnaeth pwysau hunangyflogaeth ac afiechyd ei orfodi i gymryd amser o’r gweithle.
Ar ôl 4 blynedd yn ymdopi â'i afiechyd, teimlodd Darren ei fod yn barod i ddechrau gweithio unwaith yn rhagor, ond gan nad oedd wedi hawlio unrhyw fudd-daliadau na chael unrhyw gyswllt â’r Ganolfan Byd Gwaith, nid oedd yn gwybod lle i ddechrau.
Awgrymodd ffrind i’r teulu ei fod yn cysylltu â Gweithffyrdd+, roedd ei hyder yn isel iawn ac nid oedd yn siŵr pa fath o waith yr oedd am ei wneud. Derbyniodd fentor personol a fu’n gweithio gydag ef ar ei hyder a thrafod syniadau gwaith newydd ar ei gyfer. Roedd Darren yn awyddus i archwilio’r posibilrwydd o weithio yn y sector gofal. Daeth Gweithffyrdd+ o hyd i leoliad gwirfoddoli gydag Our Place ym Mhontarddulais, cyfleuster gofal dydd i oedolion ag anableddau.
Dechreuodd Darren wirfoddoli ac roedd yn gwbl wahanol i’r hyn yr oedd erioed wedi’i wneud o’r blaen, ac roedd yn ei fwynhau’n fawr. Ar ôl bron 2 fis, roedd swydd ar gael ac fe’i cynigiwyd iddo.
Meddai Darren, "Ni allai Gweithffyrdd+ wneud digon i mi. Cynorthwyodd fy mentor imi fagu hyder ac yr oedd wedi fy annog i roi cynnig ar rywbeth hollol newydd. Awgrymodd Gweithffyrdd+ y dylwn wirfoddoli, felly dechreuais yn Our Place ac roeddwn yn dwlu ar y profiad gan fy mod yn dysgu sgiliau newydd ac yn defnyddio fy sgiliau saer coed i gynorthwyo'r defnyddwyr gwasanaeth i ddysgu hefyd. Ar ôl 6 wythnos, cefais swydd ganddo, a gwnaeth y tîm fy nghroesawu’n fawr a’m hannog ar fy nhaith newydd. Mae dychwelyd i’r gweithle wedi gwneud byd o les i’m safon byw. Ni allaf ddiolch digon i staff Gweithffyrdd+ – gwnaethant fynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig i ddod o hyd i swydd i mi.".”
Meddai Lisa Thomas, Rheolwr Our Place, “Ymunodd Darren â ni’n wreiddiol fel gwirfoddolwr a bellach mae’n aelod o staff amser llawn. Mae wedi ymgartrefu’n berffaith yn y tîm, ac mae’n wych gyda’r defnyddwyr gwasanaeth. Basech chi byth wedi dweud nad oedd Darren erioed wedi gweithio yn y sector gofal gan ei fod yn hollol naturiol wrth ei waith.
"Rydym wedi gweithio gyda Gweithffyrdd+ yn y gorffennol ac mae gennym berthynas dda ac mae’n ymwybodol o'r math o bobl rydym yn chwilio amdanynt. Byddwn yn ei ddefnyddio eto, yn sicr."
Meddai Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yng Nghyngor Abertawe, "Mae'n hynod foddhaol fod Darren wedi llwyddo i ddod o hyd i waith parhaol diolch i'r cynllun Gweithffyrdd+.
"Mae hwn yn un o’r prosiectau sydd ar waith i gynorthwyo'r rhai sy'n ddi-waith yn y tymor hir i ddychwelyd i'r gweithle, i fagu eu hyder ac i ddatblygu eu sgiliau.
"Mae'r cyfuniad o'r prosiectau hyn yn ein galluogi i drechu tlodi ar draws cymunedau ein dinas yn well."
Ariennir Gweithffyrdd+ gan £7.5m o gronfeydd yr UE drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Ceredigion.