Cwmnïau rydym wedi gweithio
Cwmnïau rydym wedi gweithio gyda nhw...
Mae Gweithffyrdd wedi cefnogi nifer o gwmnïau bach a mawr ar
draws de-orllewin Cymru wrth recriwtio. Ers 2009, mae'r prosiect
wedi cysylltu â mwy na 4,500 o gyflogwyr ar draws y rhanbarth. Isod
mae rhai o'r cwmnïau rydym wedi'u cefnogi:
"Un o gryfderau Gweithffyrdd+ yw'r diwrnodau rhagflas maent yn
eu cynnig. Roedd y sgiliau angenrheidiol gan rai ymgeiswyr ond nid
oedd ganddynt hyder mewn cyfweliadau. Roedd Gweithffyrdd+ yn ein
hannog i ystyried diwrnodau rhagflas yn y siop lle gallai darpar
ymgeiswyr arddangos eu haddasrwydd i'r rôl a gallem weld eu sgiliau
go iawn. Rwy'n gobeithio defnyddio Gweithffyrdd+ ar gyfer anghenion
recriwtio Lidl yn y dyfodol." Ross Urwin, Rheolwr
Ardal Lidl
“Gallaf argymell Gweithffyrdd fel ffordd
wych o recriwtio pobl yn ôl i’r gweithlu. Mae’r berthynas rydym
wedi’i chael â Gweithffyrdd wedi bod yn ardderchog. Does dim yn
ormod o drafferth.” Jeff Jones, Rheolwr Siop Pontardawe,
Tesco
“Dwi’n falch iawn â’r cymorth rydym wedi’i gael gan Gweithffyrdd
i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer ein swyddi gwag. Byddwn yn
annog ein contractwyr i ystyried ymgysylltu â Swyddogion Cyswllt
Cyflogwyr Gweithffyrdd a thrafod eu hanghenion recriwtio.”
John Skentelbery, Rheolwr Prosiect Ffordd yr Harbwr,
Costain
“Mae Gweithffyrdd wedi helpu'n fawr. Mae eu proses yn ein
galluogi i weld sut mae pobl yn gweithio yn y swydd cyn ein bod yn
eu cyflogi'n barhaol - nid yw'n rhywbeth y gellir ei wneud gyda
chyfweliad yn unig. Rydym yn bendant yn gobeithio defnyddio
Gweithffyrdd eto." Sandra Beynon, Rheolwr y Co-Op ar Ffordd
y Brenin
"Nid yn unig y mae Gweithffyrdd wedi ein helpu i recriwtio staff
newydd, ond maent wedi ein cefnogi gyda llawer o bethau. Mae
Gweithffyrdd wedi ein cysylltu â'r bobl gywir. Maent yn gwybod pa
gymorth sydd ar gael ac i bwy i ofyn." Steve Moorwood,
Rheolwr Gyfarwyddwr, Beiciau a Chaffi Skyline
“Pan ddechreuon ni siarad â Gweithffyrdd, daethant i'n gweld
ni'n gyflym iawn. Daeth CVs i law o fewn dyddiau ac roedd yr holl
broses wedi'i chwblhau o fewn wythnosau.” Stewart Thompson,
Cyfarwyddwr, Marina Telecom
"Mae proses Gweithffyrdd yn hawdd ac yn dda. Maent yn ei gwneud
yn hawdd recriwtio pobl oherwydd nid oes rhaid i ni edrych drwy
bentwr o bapurau. Mae'r ffaith eu bod wedi archwilio cefndir y
cyfranogwyr a'u hawgrymu i ni yn fantais fawr. Mae cyfranogwyr
Gweithffyrdd am weithio. Mae'n un o'r prosiectau cyflogaeth gorau i
mi ymwneud ag ef." Chris Jones, Rheolwr Cwmni, Corgi
Hosiery