Oedolion
Mae diogelu'n ymwneud ag atal oedolion sydd mewn perygl rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac amddiffyn y rheini sydd wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel ni waeth pwy ydyn nhw neu beth yw eu hamgylchiadau. Mae cadw pobl yn ddiogel yn fusnes i bawb.
Pwy yw aedolyn mewn perygl?
Oedolyn mewn perygl yw rhywun y mae angen cymorth arno gyda'i les corfforol neu emosiynol, a allai, o ganlyniad, gael ei ystyried yn agored i niwed. Efallai y bydd angen cymorth arno gyda thasgau byw pob dydd. Gallai rhai enghreifftiau o hyn gynnwys cymorth i fwyta, gwisgo, rheoli arian neu fynd allan o'r tŷ.
Cam-drin - a fyddwn i'n gweld yr arwyddion?
Gall cam-drin fod ar sawl ffurf fel:
- corfforol - Taro, cicio neu ddefnyddio ataliaeth ormodol.
- seicolegol - Bygythiadau o niwed neu sarhad, perthnasoedd lle caiff person ei reoli ac arwahanrwydd.
- rhywiol - Gweithgarwch rhywiol nad oes ei eisiau, gan gynnwys cyffwrdd.
- ariannol - Dwyn, twyll neu roi pwysau ar berson o ran eiddo neu ewyllysiau.
- esgeulustod - Methiant i ddiwallu anghenion pob dydd yr oedolyn sydd mewn perygl.
Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi'n amau bod person mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.