Clybiau Menter
Clybiau Menter yng Nghanolfan Busnes Sandfields
Beth yw Clwb Menter?
"Rheolir Clwb Menter CBSCNPT gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd mewn partneriaeth â busnesau a sefydliadau lleol er mwyn helpu pobl ddi-waith yn y gymuned sy'n ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain."
Cynhelir y clwb yn fisol mewn awyrgylch anffurfiol yng Nghanolfan Busnes Sandfields. Mae arbenigwyr lleol â blynyddoedd o brofiad yn eu meysydd busnes arbenigol yn bresennol i gefnogi entrepreneuriaid newydd i'w helpu i gymryd y camau nesaf tuag at fod yn hunangyflogedig.
Mae'r clwb AM DDIM ac mae'n agored i unrhyw un o unrhyw oedran sydd â syniad busnes, diddordeb mewn bod yn hunangyflogedig neu sydd am sefydlu busnes newydd yn yr ardal.
Mae'r clwb ar agor bob mis rhwng 10.00am a 12.30pm yng Nghanolfan Busnes Sandfields, Rhodfa Purcell, Sandfields, Port Talbot.
Dyma ddyddiadau'r clwb nesaf:
Dydd Iau, 23 Ionawr, 2020
Thursday, 20 Chwefror, 2020
Thursday, 19 Mawrth, 2020
Thursday, 16 Ebrill, 2020
Thursday, 14 Mai, 2020
Thursday, 11 Mehefin, 2020
Thursday, 9 Gorffenaf, 2020
Thursday, 6 Awst 2020
Thursday, 3 Medi, 2020
Thursday, 1 Hydref, 2020
Thursday 29 Hydref, 2020
Thursday 26 Gorffenaf, 2020
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r Clwb Menter hwn, siaradwch ag aelod o Dîm Datblygu Busnes CBSCNPT neu aelod o staff Canolfan Byd Gwaith Port Talbot am ragor o wybodaeth.
Manylion cyswllt
Cyngor Castell-Nedd Port Talbot
Enw Cyswllt: Sian Wyndham
Ffôn: 01639 765695
E-bost: innov8@npt.gov.uk
Taflen Clybiau Menter
Math o ffeil |
Dogfen |
Maint ffeil |
pdf |
Clybiau Menter
|
100 KB |