Cymorth Busnes
Sut gall Gweithffyrdd + gynorthwyo fy musnes?
Gyda busnesau’n fwy ymwybodol o’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, mae cyfleoedd bellach i ddangos hyn trwy recriwtio unigolion cymhellol sy’n chwilio am waith.
Gall Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr Gweithffyrdd gysylltu pobl leol â busnesau, er mwyn eu helpu i ddatblygu’r sgiliau hanfodol a’r profiad angenrheidiol i ddod o hyd i gyflogaeth yn y tymor hir.
Eich cefnogi chi i gefnogi pobl leol
Bydd Swyddogion Cyswllt â Chyflogwyr yn sicrhau cysylltiad llwyddiannus â chwmnïau lleol, i gynorthwyo gyda recriwtio a chael mynediad i unrhyw gefnogaeth sydd ar gael trwy’r canlynol:
- Cydgysylltu â chynrychiolwyr eich sefydliad i bennu rolau sydd ar gael
- Cynorthwyo gyda disgrifiadau swydd
- Hysbysebu'r swyddi gwag i gronfa o ymgeiswyr addas
- Cefnogi amserlennu diwrnodau recriwtio a hwyluso lleoliadau recriwtio
- Mewn rhai achosion, gallwn greu cyfle am swydd dros dro gyda busnesau lleol a rhoi cymhorthdal ar gyfer cyflogau cyfranogwyr am gyfnod y cytunir arno
- Edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o recriwtio'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd – treialon gwaith a diwrnodau blasu
- Paratoi ymgeiswyr posib gyda hyfforddiant a phrofiad gwaith addas
- Sicrhau bod yr holl lwybrau cefnogi busnes yn cael eu harchwilio i gynorthwyo â recriwtio, hyfforddiant, cadw staff a chymorth parhaus
- Gweithio mewn partneriaeth gyda chi, adeiladu perthynas fusnes hir dymor i gynorthwyo â'ch anghenion recriwtio parhaus
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut gall eich busnes fanteisio ar gefnogaeth Gweithffyrdd +, cysylltwch â’ch swyddfa leol.
Sut rydym wedi helpu busnesau eraill: