Insight Health Screening
Insight Health Screening
Chwiorydd yn cael llwyddiant yng Nghanolfan Busnesau
Ifanc Sandfields.
Lansiwyd Insight Health Screening gan Liz
Terry ac Ellie Taylor yn 2009, o Ganolfan Busnesau Ifanc Sandfields, Port
Talbot.
Mae'r busnes yn mynd o nerth i nerth, gan
weithio gyda busnesau lleol a chenedlaethol i wella iechyd eu
staff, lleihau absenoldebau a hyrwyddo lles.
Meddai Liz Terry, cydsylfaenydd a nyrs gymwys,
"Yn amlwg, mae'n well rhwystro'r clwy na'i wella. Rydym i gyd yn
gwybod hynny ond nid dyna'r arfer bob tro yn y gweithle.
"Fodd bynnag, mae llawer o fusnesau y dyddiau
hyn yn dod i'r casgliad bod llawer o fanteision i'w cael gan
gwmnïau sy'n buddsoddi yn iechyd eu gweithwyr."
Mae'r ddwy hefyd wedi derbyn arian yn
ddiweddar gan is-gwmni Corus, UK Steel Enterprise, mewn cynllun a
weithredir gan Business Connect, a Chronfa
Benthyciadau Hyblyg CNPT. Mae'r arian hwn wedi eu galluogi i
brynu cyfarpar a hefyd gosod Sgriniwr Golwg Keystone a chaban
clywedol ar gyfer profion clyw.
Gyda llwyth gwaith bythol gynyddol, mae'r
busnes bellach yn gweithredu o ddwy swyddfa yn y ganolfan ac yn
cyflogi wyth person ar hyn o bryd.
Meddai Ellie Taylor, Cyfarwyddwr
Gweithrediadau Insight Health Screening, "Mae gweithio o'r
swyddfeydd yng Nghanolfan Busnesau Ifanc Sandfields yn creu
awyrgylch ac amgylchedd gwaith cyfeillgar i'r staff a'r
cleientiaid."
Am ragor o wybodaeth am Insight Health
Screening, ewch i: http://www.insighthealthscreening.co.uk/