NPT Property Register
Cofrestr Eiddo Castell-nedd Port Talbot
Mae Cofrestr Eiddo a Thir Masnachol Castell-nedd Port Talbot yn
cynnwys gwybodaeth am gyfleusterau swyddfa a diwydiannol sydd ar
gael, ynghyd a safleoedd datblygu ledled y fwrdeistref sirol.
Mae'n cael ei chynhyrchu gan Dim Gwasanaethau Busnes y Cyngor.
Rydym yn ymroddedig i helpu busnesau lleol yn y fwrdeistref sirol i
ddod o hyd i safle addas, ac i helpu busnesau sydd am symud i'r
ardal.
Mae Cofrestr Eiddo a Thir Masnachol Castell-nedd Port Talbot
wedi cael ei llunio ar sail gwybodaeth a ddarparwyd gan weithredwyr
lleol. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth
sydd ynddi'n gywir, ni ellir gwarantu hyn ac nid yw Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn derbyn unrhyw
gyfrifoldeb am gamgymeriadau neu gamliwio.
Dylid cysylltu a'r gweithredwr perthnasol i gael manylion llawn
pob cofnod diwydiannol/swyddfa/datblygu tir. Mae manylion cyswllt
ar gael yn y ddogfen hon.