Development Opportunities
Cyfleodd Tir/Datblygu
Parc Ynni Baglan
Mae'r
parc busnes arobryn hwn yn cynnig amgylchedd o safon uchel a
thirlunio helaeth. Mae'r cwmniau sydd eisoes yn y parc yn cynnwys
GE Energy, Intertissue Paper Mill a Technium ar gyfer Technolegau
Cynaliadwy.
Porth Ffordd Fabian
Hon yw'r brif ffordd i Fae Abertawe o draffordd yr M4 sy'n cynnig 4
hectar ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd datblygu masnachol a defnydd
cymysg. Y cwmni cyntaf i symud i'r safle yw'r manwerthwr byd-eang
Amazon, i ganolfan ddosbarthu 800,000 troedfedd sgwar a ddyluniwyd
i'r diben ar 33 erw.
Coed Darcy
Datblygiad 400 hectar gwerth £1.2 biliwn yw Pentref Trefol Coed
Darcy ar safle hen burfa olew BP. Bydd y datblygiad yn cynnwys
pedair ysgol newydd, cyfleusterau iechyd a chwaraeon, canolfan
gymunedol a siopau, ynghyd ag oddeutu 4,000 o gartrefi. Bydd ffordd
gysylltu newydd yn gwasanaethu'r safle a bydd trafnidiaeth wyrdd yn
thema allweddol. Cefnogir y datblygiad cynaliadwy hwn gan
bartneriaeth sy'n cynnwys Sefydliad y Tywysog ar gyfer yr
amgylchedd adeiledig.
Ffordd Ddosbarthu Ymylol
Mae'r ffordd hon yn welliant strategol i'r briffordd am gost o £110
miliwn. Bydd yn cefnogi'r broses adfywio Ystad Ddiwydiannol Port
Talbot ac ardal y dociau, gan wella mynediad i lan y mor a Pharc
Ynni Baglan.
Glan Mor Aberafan
Tair milltir o draeth
tywod gyda'r posibilrwydd o gyfleoedd datblygu hamdden, masnachol a
defnydd cymysg. Ochr yn ochr â hyn, mae Cynllun Adfywio Coridor
Deheuol Afon Afan yn cynnwys tua 300 hectar.
Glyn-nedd - A465
Mae tua 34 erw o dir ar gael ar gyfer datblygu masnachol,
diwydiannol a defnydd cymysg.
Mae'r ardal hon sydd ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn cynnig
cysylltiadau ardderchog a chanolbarth Lloegr.
Harbwr Dwr Dwfn Port Talbot
Un o'r
cyfleusterau docio dyfnaf yn y byd. Potensial ar gyfer datblygu ar
30 hectar o dir yn ymyl yr harbwr, ardal a chysylltiadau
rheilffordd sy'n agos i draffordd yr M4.