Innov8
Yng Nghanolfan Fusnes Sandfields, mae rhaglen y cyngor Innov8 yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd naill ai a syniad busnes maent am archwilio iddo neu y mae angen cyngor ar redeg busnes presennol arnynt.
Mae cymorth ar gael i'ch helpu a'r canlynol:
- Cynllunio Busnes
- Cefnogaeth ac arweiniad wedi'u teilwra ar gyfer busnesau sy'n dechrau.
- Mentora parhaus ar gyfer busnesau sydd eisoes yn bodoli.
Mae'r rhaglen hefyd yn gallu'ch helpu i gael mynediad i gefnogaeth fwy arbenigol megis cadw cyfrifon, marchnata, etc. Hefyd, gallech fod yn gymwys i wneud cais am grant o £1000 tuag at gostau cychwynnol megis marchnata neu offer.
Hefyd, cynhelir digwyddiadau a chymorthfeydd cyngor yn y ganolfan, y mae rhai ohonynt yn cynnwys Cymorth Hyblyg i Fusnes a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Ewch i'r dudalen Digwyddiadau i gael mwy o wybodaeth.
I wneud apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch Sian Wyndham ar 07971 719745 neu e-bostiwch innov8@npt.gov.uk
Innov8
Math o ffeil |
Dogfen |
Maint ffeil |
pdf |
Innov8
|
97 KB |