Young People in Business
Pobl Ifanc mewn Busnes (18 - 31)
Gallai dechrau busnes newydd godi ofn arnoch os ydych yn ifanc
ac a phrofiad masnachol prin iawn. Hyd yn oed os oes gennych
syniad gwych, efallai y byddwch yn ansicr o sut i lunio cynllun
busnes neu lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gallai fod yn
anodd codi arian ar gyfer eich busnes os nad oes gennych hanes o
lwyddo.
Mae sawl enghraifft o bobl ifanc yn rhedeg busnesau
llwyddiannus. Gyda'r arweiniad iawn, gallwch gerdded yn eu hol
traed.
Gall y Tîm Datblygu Busnes roi cyngor i'ch helpu i wneud y cam
cyntaf i mewn i'r byd busnes cyn hawsed ag y bo modd. Mae
cefnogaeth yn cynnwys:
- marchnata'ch busnes
- ymchwilio i'ch cynllun busnes a'i baratoi
- dod o hyd i'r ffordd orau o ariannu'ch busnes
Hefyd, gall y tim eich rhoi mewn cysylltiad a sefydliadau
arbenigol sy'n gallu'ch cynorthwyo a:
- materion treth a TAW
- cadw llyfrau a rheoli credyd
- TGCh a datblygiad gwefan