Sicrhau Arian
Mae'r holl ffynonellau ariannu a restrir isod yn berthnasol i fusnesau newydd. Bydd y dolenni'n rhoi mwy o wybodaeth i chi am y cyllid ynghyd â'r meini prawf ar gyfer cyflwyno cais amdano.
Cefnogaeth ariannol ar gyfer busnesau sydd wedi bodoli am hyd at 24 mis. Grantiau o hyd at 100% o gostau prosiect cymwys hyd at uchafswm o £500.
Mae nifer o ffynonellau gwahanol ar gael ar gyfer busnesau bach a chanolig, a gall sicrhau'r ffynhonnell gywir fod yn broses gymhleth. Gall Canfyddwr Cyllid Busnes Cymru eich helpu i ddod o hyd i'r ffynhonnell ariannu fwyaf addas ar gyfer eich menter busnes.
Mae UK Steel Enterprise Ltd (UKSE) yn is-gwmni dan berchnogaeth lawn Tata Steel a chanddo'r cyfrifoldeb o helpu adfywiad economaidd cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan newidiadau yn y diwydiant dur.
Mae'r cynllun benthyciadau cychwyn busnes yn cynnig benthyciadau cost isel heb eu gwarantu rhwng £1,000 a £25,000 (swm cyfartalog benthyciad yw £4,500) ar gyfradd llog sefydlog o 6% ar hyn o bryd.
Cynllun gwarantu benthyciadau yw'r Gwarant Cyllid Menter (EFG), sy'n hwyluso'r broses o fenthyca arian i fusnesau cymwys sydd wedi cael eu gwrthod ar gyfer benthyciad masnachol arferol oherwydd nad oes ganddynt sicrhad na hanes profedig.
Gall Ymddiriedolaeth y Tywysog roi grant 'Will it Work' gwerth hyd at £250 a benthyciad llog isel hyd at £2,500 i bobl ddi-waith rhwng 18 a 30 oed.
Mae Banc Datblygu Cymru'n cynnig nifer o opsiynau ariannu gwahanol i fusnesau newydd a rhai sy'n datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys microfenthyciadau o £1,000 hyd at £50,000 a chyfleoedd buddsoddi o £50,000 ac yn uwch.