Yr Economi Leol
Yr Economi Leol
Yr hyn sy'n digwydd yn yr economi leol ...
Mae Castell-nedd Port Talbot yn gartref i ystod eang o gwmniau cenedlaethol a rhyngwladol megis Amazon, GE Energy, Intertissue, Ecolab a Corus, y darparwr dur, sydd bellach yn rhan o gwmni dur integredig sector preifat mwyaf India.
Mae'r economi leol yn seiliedig ar sail weithgynhyrchu gref, bron yn ddwywaith y cyfartaledd ar gyfer y DU, cynnydd cyson yn y sector gwasanaeth a'r diwydiant twristiaeth a hamdden mwyfwy llwyddiannus.
Mae sawl cynllun adfywio mawr wedi dechrau, gan ddangos hyder cynyddol yn yr ardal.
Mae datblygiadau eraill yn cynnwys cynllun ailddatblygu Canol Tref Castell-nedd gwerth £80m a llawer mwy na £30m o fuddsoddiad sector preifat wedi'i wario hyd yn hyn ar adfywio Glannau Aberafan.
Parc Ynni Baglan yw safle datblygiad unigol a fydd yn y pen draw yn cynnwys rhyw 1,500 erw. Mae cyfleoedd i'r diwydiant gweithgynhyrchu a'r diwydiant gwasanaeth ar y safle strategol mawreddog hwn sydd mewn lleoliad delfrydol gyferbyn a chyffordd 41 o draffordd yr M4.
At ei gilydd, mae'r datblygiadau'n darparu twf cyflogaeth a chynnydd enfawr mewn buddsoddiad.
Mae Castell-nedd Port Talbot hefyd yn cynnig:
- Sector gweithgynhyrchu prysur gyda'r sector moduro, nwyddau a chydrannau electronig i gwsmeriaid a pheirianneg gyffredinol a manwl, yn ogystal ag amrywiaeth da o weithredoedd ysgafn eraill.
- Cyfleuster ymchwil a datblygu ar gyfer datblygu gweithgynhyrchu modern a thechnegau prosesu deunyddiau arloesol.
- Cyfleuster magu busnes a arweinir gan dechnoleg i roi gwybodaeth a chefnogaeth i fusnesau sy'n arbenigo mewn ynni, nwyddau adnewyddadwy, rheoli gwastraff, deunyddiau cynaliadwy a meicrogynhyrchu.
- Cysylltiadau agos ar phrifysgolion i gefnogi cyfleoedd ymchwil a datblygu.
- Cyfleuster allweddol ar gyfer datblygu technolegau tanwydd eraill.
- Arddangos un o dechnolegau cylch cyfunedig tyrbin nwy mwyaf blaenllaw'r byd yng Ngorsaf Bwer Ynni GE gwerth £300m.
- Prosiect blaenllaw'n hyrwyddo defnyddio ynni bio-mas yn y DU.
- Diwydiant twristiaeth cynyddol yn cyfrannu hyd at £73.9m at yr economi leol.
- Mae dylunio gwefannau, animeiddio, effeithiau arbennig a hyd yn oed stiwdio recordio gyntaf yr ardal yn cael eu cynnwys yn y sector ffilm a chyfryngau.