UK Steel Enterprise Ltd
UK Steel Enterprise Ltd (UKSE)
Mae UK Steel Enterprise Ltd yn is-gwmni dan berchnogaeth lawn
Corus (Grwp Tata Steel) a chanddo'r cyfrifoldeb o helpu adfywiad
economaidd cymunedau a effeithiwyd gan newidiadau yn y diwydiant
dur.
Gan weithio gydag ardaloedd dur ledled y DU, darperir cefnogaeth
ariannol i fentrau bach a chanolig drwy'r canlynol:
- Ecwiti a/neu fenthyciadau gyllid ar gyfer busnesau sy'n
cychwyn, ehangiadau, caffaeliadau, a phrynu cyfrannau sy'n
gweithredu yn y sectorau busnes gweithgynhyrchu a'r rhai sy'n
gysylltiedig â gwasanaethau.
- Cyfalaf cyfrannau a phecynnau cyfrannau/benthyciadau hyd at
£750,000 (trafodir amodau'n unigol ar gyfer pob buddsoddiad).
- Benthyciadau wedi'u gwarantu hyd at £750,000.
- Benthyciadau bach heb eu gwarantu.
Gall fod arian hefyd ar gael gan y Cynllun Gwarant Cyllid Menter
a gefnogir gan y Llywodraeth, ar gyfer prosiectau busnes addas.
Am fwy o wybodaeth am y pecynnau ariannu uchod, ffoniwch UK
Steel Enterprise Ltd ar 02920 471122, e-bost: wales@uksteelenterprise.co.uk
neu ewch i www.uksteelenterprise.co.uk