ReAct
Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (ReAct)
Mae Cynllun Gweithredu Diswyddiadau (ReAct) Llywodraeth
Cynulliad Cymru yn darparu pecyn o gefnogaeth i helpi pobl sydd
wedi’u diswyddo neu dan fygythiad o gael eu diswyddo.
Mae cefnogaeth ariannol yn helpu unigolion i ennill sgiliau
newydd, goresgyn rhwystrau a gwella eu gobeithion o ddychwelyd i’r
gwaith yn yr amser byrraf posib.
Mae tair rhan i’r cynllun:
- Mae Cefnogaeth Recriwtio i Gyflogwyr yn ariannu cyflogwyr sy’n
recriwtio unigolion a gafodd eu diswyddo yn y chwe mis diwethaf.
Mae’r wobr yn cynnig hyd at £2,000 wedi’i thalu mewn pedwar
rhandaliad fel cyfraniad tuag at gostau cyflogau.
- Mae Cefnogaeth Hyfforddi i Gyflogwyr yn gronfa ddewisol ar
wahân o hyd at £1,000 y gall cyflogwr roi tuag at gost hyfforddiant
sy’n ymwneud â swydd recriwt newydd.
- Mae Cefnogaeth Ymgynghorol i Recriwtio yn darparu pecyn
cynhwysfawr o arweiniad a chefnogaeth recriwtio i helpu cwmnïau
ddod o hyd i’r person cywir.
Gall cyflogwyr ddewis gwneud cais ar gyfer Cefnogaeth
Recriwtio’n unig neu Gefnogaeth Recriwtio a Hyfforddi. Gall
Cefnogaeth Hyfforddi i Gyflogwyr gael ei defnyddio’n ar y cyd â
Chefnogaeth Recriwtio i Gyflogwyr yn unig.
Dylid cyflwyno ceisiadau o fewn chwe mis o ddyddiad y diswyddwyd
gweithiwr newydd gan gyflogwr blaenorol. Ni ddylai cwmnïau fod wedi
derbyn unrhyw arian hyfforddi sy’n seiliedig ar waith ar gyfer
unigolion ers y diswyddo.
I wneud cais am arian ReAct, ffoniwch 01792 765888 neu
e-bostiwch: ReAct.team@wales.gsi.gov.uk neu ewch: www.wales.gov.uk/react