ProAct
ProAct
Mae ProAct yn darparu cymorth hyfforddi i fusnesau sy’n profi
anawsterau
o ganlyniad i’r sefyllfa economaidd sydd ohoni ac i’r rhai sy’n
ceisio
paratoi ar gyfer yr adferiad drwy wella sgiliau eu gweithlu.
Mae’r cynllun gwerth £48m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn
darparu
cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant sy’n atal diswyddo ac
yn cefnogi costau cyflog y rhai sy’n derbyn hyfforddiant.
Mae ProAct yn cynnig £2,000 y person ar gyfer hyfforddiant a
£2,000 pellach fel cymhorthdal cyflog.
Bydd rhaid i gwmnïau sy’n ystyried gwneud cais gyflwyno Achos
Busnes yn
esbonio eu sefyllfa a’r angen am gefnogaeth. Os caiff ei
gymeradwyo,
darperir help i baratoi cynllun hyfforddi er mwyn cynorthwyo’r
broses o adfer busnes.
Bydd yn rhaid iddynt hefyd ddangos:
Dichonoldeb cyn y sefyllfa economaidd bresennol
- Cynlluniau i gyflwyno gweithio amser byr ar isafswm o 20%
- (1 diwrnod yr wythnos) yn ystod y cyfnod y caiff yr
hyfforddiant ei gyflawni
- Wedi, neu’n ystyried colli swyddi os nad ydynt yn gallu sicrhau
arian gan Pro Act.
I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch dîm ProAct ar 0845 6066160.